Rhowch wybod i ni drwy ein sianeli Facebook neu Twitter, neu anfonwch e-bost, os oes gennych wybodaeth ddefnyddiol i’w hychwanegu.
Symud eich digwyddiadau a’ch dosbarthiadau ar-lein
BLOG:
https://musiceducation.global/moving-your-classes-online/
FACEBOOK BYW (recordiad):
https://www.facebook.com/nymaz
ADNODDAU:
https://www.nymaz.org.uk/connectresound/resources
Adnodd defnyddiol ar gyfer cymunedau sy’n anghyfarwydd â gweithio ar-lein
https://localtrust.org.uk/big-local/programme-guidance/digital-toolkit/
Cyngor gan Arts Professional
https://www.artsprofessional.co.uk/news/covid-19-connecting-online-during-social-distancing
Meddalwedd fideogynadledda ar-lein
- Zoom – galwadau fideo 1-1 diderfyn, gyda sgwrsio testun. Bydd angen sefydlu cyfrif, trefnu cyfarfod ac anfon y ddolen at bawb. Bydd angen iddyn nhw lawrlwytho ap bach. Cyfyngiad o 40 munud i gyfarfodydd sydd â mwy na thri pherson gyda’r pecyn Sylfaenol/am ddim. Er mwyn cynnal cyfarfod hirach, mae cyfrif Pro yn £11.99/y mis. Gall unrhyw un sydd â gwahoddiad (dolen) ymuno â galwad Zoom heb orfod talu.
Sut mae defnyddio Zoom ar gyfer gwersi cerddoriaeth
- Google Hangouts – mae galwadau fideo i hyd at 10 person am ddim (neu hyd at 25 person os ydych chi’n defnyddio’r pecynnau Busnes neu Addysg). Mae’n rhaid i bawb sydd am ymuno â sgwrs grŵp ddefnyddio Hangouts / fod â chyfrif Google – ar hyn o bryd mae cyfrif Google yn £0/y mis ac mae G Suite Basic yn £4.14/y mis. Mae’n bosib y bydd angen defnyddio Chrome; gallech gael problemau ar Internet Explorer, er enghraifft.
- Google Hangouts Meet – fersiwn premiwm Google Hangouts, ar gael os ydych chi’n talu am becyn G Suite Basic (£4.14/y mis+) a’r uchod. Mae hwn yn caniatáu i chi drefnu galwadau fideogynadledda diderfyn ar gyfer hyd at 100 o gyfranogwyr. Gall unrhyw un sydd â gwahoddiad (dolen) ymuno â galwad Google Hangouts Meet am ddim.
- WhatsApp – galwadau fideo 1-1 diderfyn i hyd at 4 person gyda phecyn am ddim. Dim ond ar gael drwy’r ap WhatsApp ar gyfer ffonau symudol (yn hytrach na’r fersiwn Bwrdd Gwaith/We) – mae cyfrif WhatsApp am ddim ar hyn o bryd.
- Skype – galwadau cyfarfodydd fideo diderfyn i hyd at 50 person gyda phecyn am ddim. Mae’n rhaid i bawb sydd am ymuno â thrafodaeth grŵp ddefnyddio Skype / fod â chyfrif Skype – ar hyn o bryd mae cyfrif Skype am ddim.
- Discord – Teclyn sgwrsio testun a llais, gyda galwadau fideo ar gyfer hyd at 10 person am ddim. Mae’n rhaid i bawb sydd am ymuno â thrafodaeth grŵp ddefnyddio Discord / fod â chyfrif Discord. – ar hyn o bryd mae cyfrif Discord yn £0/y mis – https://discordapp.com
- Whereby – galwadau cyfarfodydd fideo diderfyn i hyd at 4 person gyda chyfrif am ddim. Mae fersiynau Pro yn caniatáu hyd at 12 person ac mae’r fersiwn Busnes yn ddiderfyn – ar hyn o bryd mae cyfrif am ddim Whereby yn £0/y mis a chyfrif Pro yn $9.99 /y mis https://whereby.com/information/pricing/
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr Plwg.