2 Hydref 2020

Cyfansoddwyr Ifanc yr Hydref: Cwrs Ar-lein

Mae’r cynllun Cyfansoddwyr Ifainc yn cynnwys gweithdai cyfansoddi tymhorol yn Neuadd Dewi Sant lle byddwch yn cael eich arwain ac yn cael eich tiwtora i ysgrifennu ar gyfer ensemble clasurol, a chlywed eich cyfansoddiad yn cael ei chwarae gan y cerddorion.

Mae’r cynllun AM DDIM a bydd yn gorffen gyda pherfformiad o’ch gwaith sydd ar y gweill neu eich darnau terfynol lle cânt eu recordio, eu golygu a’u hanfon atoch i’w cadw.

Mae hwn yn gyfle cyffrous a byddai’n creu argraff dda iawn ar geisiadau addysg bellach. Bydd o fantais hefyd os ydych yn rhoi portffolio o waith at ei gilydd yn yr ysgol neu’r coleg, neu’n ceisio penderfynu pa lwybr gyrfaol i’w ddilyn fel cyfansoddwr.

Oherwydd COVID-19 ni all ein sesiwn bersonol gael ei chynnal ond mae hyn yn golygu ein bod wedi symud ein cwrs ar-lein.

Yn y sesiynau ar-lein hyn, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyfansoddi ar gyfer Pumawd Pres, gan weithio gyda’r cyfansoddwr proffesiynol Richard Barnard. Bydd y sesiynau’n gymysgedd o waith grŵp ac yna amser unigol i weithio ar eu cyfansoddiad eu hunain. Bydd pob myfyriwr yn cyfansoddi darn gwreiddiol newydd ar gyfer Pedwarawd neu Bumawd Pres ac yn rhannu ei ddarn gorffenedig gydag aelodau eraill o’r grŵp mewn cyflwyniad ar-lein terfynol.

Oed: 14-18 oed

Gofynion: Bydd angen i fyfyrwyr allu darllen cerddoriaeth, bod â phapur erwydd a gallu defnyddio bysellfwrdd/piano. Isafswm gradd 3 neu’n uwch ar unrhyw offeryn.

Cofrestrwch yma:

PGRpdiBpZD0iZXZlbnRicml0ZS13aWRnZXQtY29udGFpbmVyLTEyMzE5OTU0MDE0MSI+PC9kaXY+Cgo8c2NyaXB0IHNyYz0iaHR0cHM6Ly93d3cuZXZlbnRicml0ZS5jby51ay9zdGF0aWMvd2lkZ2V0cy9lYl93aWRnZXRzLmpzIj48L3NjcmlwdD4KCjxzY3JpcHQgdHlwZT0idGV4dC9qYXZhc2NyaXB0Ij4KICAgIHZhciBleGFtcGxlQ2FsbGJhY2sgPSBmdW5jdGlvbigpIHsKICAgICAgICBjb25zb2xlLmxvZygnT3JkZXIgY29tcGxldGUhJyk7CiAgICB9OwoKICAgIHdpbmRvdy5FQldpZGdldHMuY3JlYXRlV2lkZ2V0KHsKICAgICAgICAvLyBSZXF1aXJlZAogICAgICAgIHdpZGdldFR5cGU6ICdjaGVja291dCcsCiAgICAgICAgZXZlbnRJZDogJzEyMzE5OTU0MDE0MScsCiAgICAgICAgaWZyYW1lQ29udGFpbmVySWQ6ICdldmVudGJyaXRlLXdpZGdldC1jb250YWluZXItMTIzMTk5NTQwMTQxJywKCiAgICAgICAgLy8gT3B0aW9uYWwKICAgICAgICBpZnJhbWVDb250YWluZXJIZWlnaHQ6IDQyNSwgIC8vIFdpZGdldCBoZWlnaHQgaW4gcGl4ZWxzLiBEZWZhdWx0cyB0byBhIG1pbmltdW0gb2YgNDI1cHggaWYgbm90IHByb3ZpZGVkCiAgICAgICAgb25PcmRlckNvbXBsZXRlOiBleGFtcGxlQ2FsbGJhY2sgIC8vIE1ldGhvZCBjYWxsZWQgd2hlbiBhbiBvcmRlciBoYXMgc3VjY2Vzc2Z1bGx5IGNvbXBsZXRlZAogICAgfSk7Cjwvc2NyaXB0Pg==

Amserlen

Diwrnod 1

13:00-14:00 Sesiwn Groeso a chyflwyno’r Grŵp

14:15-15:30 Gwaith unigol ar gyfansoddiadau

16:00-17:00 Sesiwn grŵp

E-bostio sgorau drafft ar gyfer adborth

Diwrnod 2

13:00-14:00 Sesiwn grŵp

14:15-15:30 Gwaith unigol ar gyfansoddiadau (+ sesiynau 1 wrth 1)

16:00-17:00 Sesiwn grŵp

E-bostio sgorau drafft i gael adborth

Diwrnod 3

13:00-14:00 Sesiwn grŵp

14:15-15:30 Gwaith unigol ar gyfansoddiadau (+ sesiynau 1 wrth 1)

16:00-17:00 Sesiwn grŵp

E-bostio sgorau drafft i gael adborth

Diwrnod 4

13:00-14:30 Sesiwn grŵp i chwarae’r gerddoriaeth drwyddi/adborth

14:45-15:30 Mireinio’r cyfansoddiadau

16:00-17:00 Chwarae’r cyfansoddiadau drwyddynt am y tro olaf mewn grŵp.

Am y Cyfansoddwr

Richard Barnard yn gyfansoddwr Prydeinig. Mae wedi cael ei gomisiynu gan Opera Cenedlaethol Cymru, Clare Hammond, Opera North, CBSO, Gŵyl Bath, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Operasonic ac eraill. Mae ei gerddoriaeth wedi cael ei ddarlledu ar BBC Radio 3 a’i berfformio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol gan gerddorion gan gynnwys Mirga Gražinytė-Tyla, Mark Padmore, Morgan Szymanski, Juice Vocal Ensemble, Singers y BBC, Cerddorfa WNO a’r soprano Elizabeth Karani, y mae’n gweithio gyda nhw fel Barnard & Karani.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD