Dechreuwch 2021 gyda ni yn A2:Clymu, a gadewch i ni ysgogi’ch creadigrwydd!
Y tymor yma, mae prosiect A2:Clymu wedi ymuno â Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De i ddarparu rhaglen amrywiol a chyffrous o Ddysgu Proffesiynol Rhithwir a gynhelir gan artistiaid ac ymarferwyr creadigol.
Mae’r digwyddiadau yma am ddim i athrawon o Ranbarth Canolbarth y De.
Ewch i’r dudalen ddigwyddiadau ar ein gwefan i weld y manylion llawn a dolen i archebu.
Bydd pob cwrs yn cynnig cyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr ac i ymlacio mewn grŵp creadigol cefnogol, gan ddatblygu sgiliau, ymagweddau newydd, cysylltiadau a ffrindiau ar yr un pryd.
Cynhelir y sesiynau hyn ar-lein ar ddiwedd y dydd, er mwyn cyd-fynd â’ch amserlen brysur yn yr ysgol ac adref.
Adnoddau Dysgu Ar-lein
Oeddech chi’n gwybod bod gan Actifyddion Artistig adnoddau creadigol a dysgu ar-lein ym maes cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol sydd wedi’u creu gan artistiaid ac arbenigwyr cerddoriaeth i helpu athrawon a rhieni i ddysgu o bell? Porwch wefan Actifyddion Artistig i weld beth sydd ar gael, ac mae croeso i chi eu rhannu.