22 Ionawr 2021

Taflu’r goleuni ar – yr artist Holly Davey

Bydd Holly’n arwain tair o’n sesiynau datblygiad proffesiynol parhaus ar-lein i athrawon ar y celfyddydau mynegiannol. Buon ni’n ei holi am ei gwaith hyd yma, a sut mae pethau wedi bod o ran ei bywyd, ei gwaith, a bod yn greadigol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Gallwch ymuno â Holly ac A2:Clymu yn un neu fwy o’r sesiynau datblygiad proffesiynol parhaus ar-lein:

Datgloi sgiliau arlunio creadigol mewn disgyblion Cyfnod Allweddol 2

Canfod a Meithrin Creadigrwydd Cynhenid eich Disgyblion – ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, 3 ac uwch.

Defnyddio Celfyddyd Gyfoes i Ehangu Ffrâm Gyfeirio dysgwyr – ar gyfer athrawon Cyfnod Allweddol 3 ac uwch.

 

Holly Davey

 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dw i’n teimlo bod fy nghreadigrwydd wedi cael ei brofi go iawn. Dim cymaint o ran cael amser a lle i greu yn gorfforol, ond yn fwy o ran y meddylfryd iach sydd ei angen ar artistiaid i ddatblygu, i feddwl, i fyfyrio ynghylch syniadau, a’u symud nhw ymlaen.  Dw i wedi bod yn treulio llawer o amser gyda fy nwylo ac yn canolbwyntio ar greu, yn arbrofi gyda deunyddiau ac yn archwilio prosesau newydd, fel gweithio gyda phlastr, ffelt, pren haenog a dyfrlliw.

Fe benderfynais i y byddai’n strategaeth dda i fi dynnu’r pwysau oddi ar greu i gael canlyniad, ac i fwynhau’r gofod roedd hynny’n rhoi i mi, a’r pleser pur o greu a sut mae pethau’n teimlo. Y tu allan i’r stiwdio, dw i wir wedi mwynhau defnyddio fy nghreadigrwydd i greu pethau ymarferol, fel clustogau i stopio drafft, cynheswyr coesau, adnewyddu’r ffenestri yn y tŷ, a meddwl hefyd am ffyrdd eraill o fod yn greadigol; coginio, pobi, canu, chwarae backgammon, gwrando ar gerddoriaeth a darllen.

Mae dysgu cyfunol yn ffordd gyffrous o ddefnyddio’r gofod dysgu ac addysgu. Mae bywyd cyfoes yn gyfuniad o brofiadau bywyd go iawn a phrofiadau ar-lein. Mae’n hanfodol ein bod ni’n defnyddio’r rhyngrwyd ymhlith yr adnoddau sydd ar gael i ni yn yr amgylchedd dysgu ac addysgu, cyhyd â’i fod yn cyd-fynd â phrofiadau bywyd go iawn, fel gweithio gyda gwahanol ddeunyddiau celf, edrych ar lyfrau, gwylio ffilmiau, a phrofi theatr, dawns a cherddoriaeth. Pan gaiff ei ddefnyddio ar y cyd, gall dysgu cyfunol wella’r gofod dysgu ac addysgu, gan gynnig ffyrdd cyffrous o gysylltu gyda chreadigrwydd unigol a’r grŵp.

Mae fy ngwaith a fy ymagwedd tuag at y gofod dysgu yn canolbwyntio ar gydweithio a chydraddoldeb. Mae fy nghelf yn archwilio syniadau ynghylch absenoldeb, lle, ac archif. Dw i’n gweithio gyda chasgliadau ac archifau cyhoeddus a phreifat i amlygu ac i archwilio’r lleisiau coll sydd ynddyn nhw, yn enwedig straeon menywod. Mae gen i ddiddordeb mewn cwestiynu a herio sut mae hanes wedi cofnodi lleisiau menywod, ac mewn edrych am ffyrdd posib o siarad am hyn drwy arddangosiadau, comisiynau a phreswylfeydd.

Mae’r syniad o gynhwysiant a chydweithio yn arbennig o bwysig i’r ffyrdd dw i’n gweithio, ac maen nhw’n allweddol i sut dw i’n gweithio yn y gofod dysgu. Dw i’n angerddol dros sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yn ofod sy’n cael ei rannu gan yr athro a’r myfyriwr. Dw i wedi dysgu cymaint gan fy myfyrwyr wrth roi rheolaeth a pherchnogaeth iddyn nhw dros eu dysgu eu hunain. Fel athro, dim yr arbenigwr ydw i, ond yr arweinydd sy’n cynnal y gofod er mwyn i eraill allu archwilio eu syniadau, eu meddylfryd, eu dewisiadau, a’u galluogi nhw i ddod o hyd i’w ffordd eu hunain o rannu ac i fynegi eu stori eu hunain o fod yn y byd.

Mwy

Ers graddio o Goleg Goldsmiths, Llundain, dw i wedi parhau i arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn orielau a gofodau treftadaeth amrywiol, fel Oriel Mission, Abertawe; g39, Caerdydd; Prosiect Newbridge, Gateshead; Oriel Hardwick, Cheltenham Spa; A La Ronde, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Exeter; Castell Abertawe, Abertawe; Castell Croft, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Henffordd; Chapter, Caerdydd ac Oriel Thelma Hulbert, Honiton. Ers 2012, dw i wedi cael nifer o gomisiynau mewn lleoliadau amgueddfeydd, gan gynnwys Nothing Is What It Is, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; The Nameless Grace, Amgueddfa Holburne, Caerfaddon; a  Here is Where we Came From, Oriel Gelf ac Amgueddfa Plymouth.  Dw i wedi cymryd rhan mewn sawl preswylfa, gan gynnwys URRA, Buenos Aires; Gedok, Stuttgart; La Residencia, Gijon. Yn 2019, fi oedd Cymrawd Cymru Greadigol yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain, ac yn 2020 roedd gen i arddangosfa unigol yn Oriel Danielle Arnaud, Llundain.

 

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD