Ymunwch â Phil ac Emma wrth iddyn nhw fynd â chi ar deithiau cyffrous trwy gerddoriaeth, symud a straeon. Mae’r fideos byr hyn wedi’u cynllunio i’w mwynhau ar unrhyw adeg ac mor aml ag y dymunwch. Maent yn ymdrin â symudiadau hawdd, gwrando ar y gerddoriaeth ac ymuno â’r gweithredoedd, straeon gyda “theithiau cerdded gwrando”, gwrando gweithredol a digon o bethau hwyl eraill i’w gwneud.
Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio ar gyfer plant ag anawsterau dysgu a chorfforol fel rhan o’n gweithgareddau Cerddorfa Agored.