Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd James Doyle Roberts yn arwain cwrs byr i athrawon:
Datblygu Hyder i arwain Dawns a Symudiad – ar gyfer athrawon Cyfnod Allweddol 2.
Meddai Bridie….
Mae diddordeb wedi bod gen i erioed yn y ffordd mae dawns yn cyfuno gyda ffurfiau eraill ar gelfyddyd fel drama, cerddoriaeth, syrcas, celfyddydau gweledol, ysgrifennu creadigol ac ati, a thrwy fy arfer fy hunan dw i bob amser yn addasu ac yn datblygu sut mae ffurfiau ar gelfyddyd yn llywio ei gilydd ac yn cynnig rhywbeth newydd i’w archwilio. Hyfforddais i mewn Dawns ym Mhrifysgol Spa Caerfaddon, lle roedd pwyslais ar goreograffi, byrfyfyr a chreadigrwydd yn hytrach na thechneg dawns yn unig. Ar ôl graddio, bues i’n gweithio fel athrawes ddawns a choreograffydd llawrydd, gan gydweithio gyda nifer o sefydliadau cyn sefydlu fy nghwmni fy hun o’r enw Citrus Arts yn 2009.
Fy atgofion dysgu mwyaf cofiadwy yw’r rhai ag ymagweddau cymysg, lle mae sgiliau celfyddydau mynegiannol ac ymarferol yn cael eu defnyddio ym maes llythrennedd a rhifedd ac ati. Fel plentyn, roedd pynciau craidd penodol fel mathemateg a ffiseg yn heriol i fi, ac allwn i ddim cael graddau uchel ynddyn nhw. Yn ystod fy mlwyddyn olaf yn astudio ffiseg, ces i athro newydd a oedd yn dod o hyd i ffyrdd creadigol o gymhwyso ffiseg i weithgareddau bob dydd.
Gyda’r ymagwedd yma, newidiodd fy ngraddau o D i B mewn blwyddyn. Gwnaeth hyn i fi sylweddoli pa mor bwysig yw ymdrin â phynciau craidd mewn modd creadigol, a dod o hyd i ffyrdd i helpu disgyblion i’w deall nhw, fel nad ydyn nhw’n rhwystr rhag dysgu. Drwy ddawns, sylweddolais fod mathemateg a ffiseg yn ganolog i fy arfer, yn y ffordd rydyn ni’n symud ac yn cyfansoddi ac yn creu coreograffi. Dydy e ddim yn teimlo fel rhwystr i fi bellach.
Mwy:
Dw i’n falch iawn bod y cwricwlwm newydd i Gymru’n cael ei gyflwyno, gan fy mod i’n siŵr y bydd o fudd mawr i ddisgyblion. Mae fy mhrofiad yn dangos i fi bod cydweithio ac archwilio yn allweddol, ond bod cael y sgiliau i weithredu’n hyderus hefyd yn bwysig. Mae fy ymagwedd yn syml yn aml, a dw i’n ceisio torri’r tasgau i lawr i syniad sylfaenol sydd â lle i dyfu, i ddatblygu ac i ymestyn yn seiliedig ar lefel y disgyblion.
Mae’r tasgau syml yma’n gallu bod yn ddefnyddiol i ddawnswyr newydd a mwy profiadol. Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr, ond dw i’n awyddus i helpu athrawon i ddod o hyd i ffyrdd syml o ddefnyddio dawns yn yr ystafell ddosbarth a allai gael effaith fawr ar ddysgwr ifanc.