Bydd Nia’n arwain dau gwrs byr i athrawon sy’n cefnogi drama ar lefel Cyfnod Allweddol 2 a 3 neu’n uwch:
Rydyn ni wrth ein boddau o gael gweithio gyda Nia Lynn unwaith eto.
Ymarferydd Llais blaenllaw yw Nia Lynn, sydd â dros ddeunaw mlynedd o brofiad yn gweithio gydag Actorion Proffesiynol ym maes Theatr, Radio, Ffilm a Theledu. Mae’n gweithio mewn cyd-destun theatr broffesiynol, ac yn gweithio gyda chwmnïau fel Cwmni Brenhinol Shakespeare, Donmar Warehouse, a’r Young Vic i enwi dim ond rhai.
Mae ei rôl yn aml yn integreiddio hyfforddi llais, gwaith anadlu a’r corff, ynghyd ag acenion a thafodieithoedd. Mae ganddi ddealltwriaeth drylwyr o iechyd y llais ac anatomeg a ffisioleg y llais llafar, ynghyd â beth ddylid ac na ddylid ei wneud ym maes Siarad Cyhoeddus. Gall Nia eich helpu i ddatgloi eich llais a darn o destun, o gyflwyniad cyhoeddus i waith ensemble llawn a chwmnïau mawr.
Roedd Nia gynt yn Bennaeth Llais yn yr Academi Theatr Gerdd, ac mae’n aelod presennol o’r gyfadran yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall (yr Adran Dysgu Creadigol). Hi yw’r athrawes canu jazz prif astudiaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yr Academi Gerdd Frenhinol, ac mae hefyd yn ddarlithydd gwadd yn Trinity Laban.
Mae’n Ymarferydd Cyswllt Addysg ar gyfer Cwmni Brenhinol Shakespeare, ac yn cynrychioli eu hadran addysg ledled gwledydd Prydain ac yn rhyngwladol. Mae hi wedi gweithio gyda’r BBC hefyd, ar gynhyrchiad CBeebies o ‘A Midsummer Nights Dream’, gyda Tim Crouch ar ‘The Complete Deaths’ gyda SpyMonkey, gyda’r Uwch Gynghrair (hyfforddi dysgu creadigol), a gyda chwmnïau ac artistiaid fel Kate Tempest, Jean Abreau, Cynyrchiadau Insight, Cwmni Theatr Phyzical, Gŵyl Ddrama Genedlaethol y Myfyrwyr, Theatrau Sheffield a Sound Thinking Australia.