Nifer o fanciau bwyd yn ardal canol y de yn dod yn (gyfrwng) hyb creadigol i bobl ifanc!
Menter newydd gan Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig ar gyfer gwanwyn 2021 yw “Pethau i’w Creu a’u Gwneud”.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni i gyd wedi dysgu pa mor bwysig yw bod yn greadigol i’n llesiant sylfaenol. Rydyn ni’n gwybod bod bwyd yn hanfodol i’n hiechyd, ond mae angen maeth ar ein llesiant meddyliol hefyd, yn enwedig plant a phobl ifanc sydd wedi teimlo effaith y cyfnod clo yn drwm.
Gyda chefnogaeth hael Sefydliad Paul Hamlyn, drwy raglen a drefnwyd gan Engage, sef y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysg Oriel, comisiynodd Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig yr artist Lucy Dickson i greu a darlunio pecyn gweithgareddau i bobl ifanc. Mae’r pecynnau creadigol o’r enw ‘Pethau i’w Creu a’u Gwneud’ yn ffordd i deuluoedd a phlant ymgysylltu’n greadigol gyda’i gilydd neu’n annibynnol, gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau syml a’r deunyddiau a ddarperir. Mae pob pecyn yn cynnwys llyfryn gweithgaredd wedi’i gomisiynu’n arbennig.
Fel rydyn ni’n gwybod, mae banciau bwyd wedi bod yn ddarpariaeth arbennig o bwysig, gyda galw mawr amdani, yn ystod y pandemig i lawer o bobl, eu teuluoedd a’u cymunedau. Rydyn ni’n falch iawn felly bod llawer o’r hybiau yma yn y de wedi cytuno i ddosbarthu’r pecynnau gweithgareddau AM DDIM yma. Dros yr ychydig wythnosau nesaf, bydd Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig yn dosbarthu 115 o becynnau i 11 banc bwyd yn ardal Pont-y-pŵl a Phen-y-bont ar Ogwr, gyda mwy o becynnau’n mynd i hybiau Caerdydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod ein holl blant yn profi addysg sy’n llawn o’r celfyddydau – bydd yn cyfrannu at bob agwedd ar eu datblygiad, ac yn eu paratoi nhw i fod yn fwy gwydn drwy gydol eu bywydau”. Y Fonesig Benita Refson, Llywydd a Sylfaenydd Place2Be
Mae’r fenter hon yn cefnogi ymateb cychwynnol Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig i’r pandemig ym mis Mai 2020, lle penderfynon ni greu cyfuniad o weithgareddau a phecynnau’r celfyddydau digidol, a gafodd eu dosbarthu i bobl ifanc sy’n cael prydau ysgol am ddim drwy ysgolion. Dosbarthwyd 1700 o becynnau AM DDIM fel rhan o’r fenter hon cyn yr haf, yn rhan o’n dyhead i ymestyn ac addasu ein darpariaeth.
Drwy ein profiad diweddar, rydyn ni wedi gweld bod anghyfartaledd yn y ddarpariaeth ddigidol i bobl ifanc a theuluoedd a’u gallu i gael mynediad at ddeunyddiau. Nod ein pecyn gweithgaredd ‘Pethau i’w Creu a’u Gwneud’ yw helpu i lenwi’r bwlch hwn, gan addasu ein hadnoddau ar-lein presennol yn becynnau copi caled i deuluoedd, gan ddefnyddio Banciau Bwyd fel hybiau creadigol i bobl ifanc a theuluoedd.
“Mae wedi’i nodi bod gweithgarwch creadigol yn ysgogi dealltwriaeth o’r broses greu, gan feithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb a hunan-fyfyrio, mwy o hyder a hunan-hyder, ac iechyd meddwl gwell”. Creative Health: The Arts for Health and Wellbeing, adroddiad gan y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant.
I gael rhagor o wybodaeth am y fenter hon, neu waith Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig, cysylltwch â Patricia O’Sullivan, Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu. M:07841421075 e:patricia@arts-active-trust.flywheelstaging.com Dilynwch ni ar Twitter: @ArtsActive; Facebook: @artsactive Instagram: artsactivecardiff
Nodiadau i Olygyddion:
Elusen gofrestredig sy’n cefnogi prosiectau ymgysylltu â’r gynulleidfa, addysg a’r gymuned o Neuadd Dewi Sant a’r Theatr Newydd yw Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig. Mae’r Ymddiriedolaeth yn credu’n angerddol yng ngrym prosiectau celfyddydol o ansawdd uchel er mwyn ymgysylltu, ysbrydoli a thrawsnewid bywydau pobl, waeth beth yw eu cyd-destun economaidd, diwylliannol a chymdeithasol.
Mae rhaglen Actifyddion Artistig wedi’i hysbrydoli gan raglenni amrywiol y ddau safle, ac mae’n manteisio ar yr arbenigedd a’r adnoddau sydd ganddynt, gan eu defnyddio fel sbardun grymus ar gyfer mentrau creadigol. Gweithredodd Actifyddion Artistig raglen A2:Clymu yn rhanbarth Canolbarth y De fel rhan o’r prosiect rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg Rhanbarthol, a2@arts-active-trust.flywheelstaging.com
https://artsactive.org.uk/wp-content/uploads/2021/03/phf_logo_rgb-1-1-1024×366.pnghttps://artsactive.org.uk/wp-content/uploads/2021/03/star_icon-12-1-1024×1024.pnghttps://artsactive.org.uk/wp-content/uploads/2021/03/Engage_Logo_CMYK-1.jpg