9 Gorffennaf 2021

Gŵyl Tŷ Allan: FWY Haf

Mae Gŵyl Tŷ Allan yn ôl ac yn FYW!

Ar gae Neuadd y Ddinas

“Gwên o Haf” Cyngor Caerdydd – Gŵyl Haf i blant a phobl ifanc! 

Safle’r Ŵyl; Dydd Mawrth 20 Gorffennaf – dydd Sul 8 Awst 2021  

I ddilyn llwyddiant ysgubol Gŵyl Tŷ Allan, sef gŵyl ddigidol ar-lein a lansiwyd gan Actifyddion Artistig mewn ymateb i’r pandemig ym mis Gorffennaf 2020, pan oedd dysgu o bell yn hanfodol i bobl ifanc yn ystod cyfnodau clo hir. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedden ni’n ymwybodol o bwysigrwydd cyfleoedd creadigol i bobl ifanc, yn enwedig yn y cyfnod yma, er budd eu hiechyd a’u llesiant sylfaenol. Gallai natur a bod tu allan i’r tŷ (yn ddiogel) fwydo a maethu’r creadigrwydd yna, ac wrth gwrs mae’n parhau i wneud hynny. 

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi felly y bydd Gŵyl Tŷ Allan nawr yn FYW, gyda rhaglen lawn o gyfleoedd creadigol i blant a phobl ifanc fel rhan o ŵyl #GwênOHaf a bydd y rhaglen dair wythnos o hyd yn cael ei chynnal ar safle Neuadd y Ddinas. 

Fel rhan o adferiad dinas Caerdydd yn dilyn y pandemig, mae gweithgareddau haf i blant yn cael eu cynnal ledled y ddinas. Dyma raglen o ddigwyddiadau hygyrch a chynhwysol wedi’i llunio i annog plant i chwarae, symud, a mwynhau ar ôl cyfnodau clo a dysgu o bell. Mae miloedd o blant wedi gorfod hunanynysu a dysgu o bell yn ystod y pandemig, ac mae rhai’n dal i orfod gwneud hynny. 

Dyma gyfle gwych i ni allu dathlu a dangos cefnogaeth i ymdrechion dewr llawer o bobl ifanc sydd wedi addasu i’r cyfnod digynsail yma, ac sy’n dal i wneud hynny. Felly, rydyn ni wedi llunio a dylunio sawl gweithgaredd celfyddydau creadigol yn benodol i bobl ifanc. 

Bydd rhaglen tair wythnos FYW Gŵyl Tŷ Allan yn cynnwys: 

    • Y Pod Portread, Dewch draw i gael eich portread wedi’i dynnu gan ein artistiaid proffesiynol dawnus yn ein stiwdio symudol!
    • Rêf Fabanod, bydd rhai o DJ’s gorau Caerdydd yn codi bwrlwm yn y bore i ddeffro’ch meddwl a chyffroi’ch corff. Yn addas i fabanod, plant o dan 6, a’u hoedolion.
    • Cymysgedd eclectig o weithdai celf gweledol – anifeiliaid cardfwrdd, pwytho i bobl ifanc, pypedau a phenwisgoedd adar, a phaentio wrth wrando. Creu cardiau post cadarnhaol gyda stampiau darluniadol hwyliog yr artist. Bydd modd rhannu’r rhain gyda theulu a ffrindiau ar ôl methu â’u gweld am gyfnod hir y llynedd, neu eu cadw i’w hunain. 
  • Sesiynau dawns hwyliog, artistiaid preswyl ar y safle, a gweithdai ecogyfeillgar. 
  • Cyfres o sesiynau CYFNOS i bobl ifanc yn trafod hunan-drefnu, mentora cyfoedion, a gofod cymunedol. A mwy! 

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o’r ŵyl yma i blant a phobl ifanc. Am ffordd wych o ddathlu a diolch i bobl ifanc Caerdydd”. Actifyddion Artistig. 

Mae modd archebu tocynnau i’r ŵyl drwy wefan Gwên o Haf; https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/gwen-o-haf/

Os hoffech ddysgu mwy am weithgareddau a rhaglen FYW Gŵyl Tŷ Allan, ewch i’n gwefan www.arts-active-trust.flywheelstaging.com/cy/. Dilynwch ni ar Twitter: @ArtsActive Facebook; @artsactive Instagram;@artsactivecardiff.

 I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, lluniau neu gyfweliadau gyda’r artistiaid sy’n rhan ohoni, neu am waith Actifyddion Artistig, cysylltwch â Patricia O’Sullivan drwy patricia@arts-active-trust.flywheelstaging.com neu ffoniwch 07841421075. 

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD