4 Chwefror 2022

Yn Fuan!

Rydym yn gyffrous iawn i rannu newyddion gyda chi fod Arts Acrtive wedi cael eu comisiynu gan Gyngor Caerdydd, a gan UNICEF,  prosiect Child Friendly Cardiff,  Ffrindiau rhyngwladol dinasoedd a chymunedau, i arwain ar y rhaglen celf a diwylliant ar gyfer #WinterOfWellbeing sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.  

Rydym wedi bod yn gweithio’n ddiddiwedd dros y misoedd diwethaf er mwyn creu gweithgareddau fydd yn apelio at blant a phobl ifanc ar draws y ddinas.

Y gobaith yw, y bydd pobl ifanc yn cael y cyfle i brofi pethau newydd, darganfod syniadau newydd a datblygu dealltwriaeth gwell o’r hyn sydd gan y ddinas i gynnig. 

“Fe’i cynhelir mewn mannau cymunedol, canolfannau hamdden, canolfannau ieuenctid ac yng ngofod dros dro Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant, ac mae’r rhaglen yn cyfuno prosiectau pwrpasol, digwyddiadau mynediad agored, sesiynau, a chyrsiau byr. Bydd yn cynnwys prosiectau datblygu sgiliau, ochr yn ochr â chyrsiau blasu a phrofiadau archwiliadol mwy chwareus, a byddwn yn manteisio ar rym y celfyddydau creadigol a diwylliant ein dinas i gynnig llawenydd, llesiant, datblygiad cymdeithasol a chymaint mwy”. Bryony Harris, Cyfarwyddwr Rhaglen Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig. 

Mae mwy o fanylion am y rhaglen yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd at wefan Caerdydd sy’n Dda i Blant:https://www.caerdyddsynddaiblant.co.uk/ 

Ar gyfer y Datganiad i’r Wasg llawn, ewch yma:

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD