15 Tachwedd 2017

Adnoddau dysgu rhagorol ar gyfer arddangosfa Mike Perry – Tir/Môr

Mae ‘Tir/Môr’ yn canolbwyntio ar lannau a thirweddau geirwon Gorllewin Cymru lle mae Mike Perry yn byw ac yn gweithio. Drwy gasglu a thynnu lluniau’r broc môr o waith llaw dyn ar draethau, a chofnodi’n fforensig fanwl y dirwedd o’n cwmpas, mae’n tynnu ein sylw at effaith andwyol y ddynoliaeth ar yr ecosystem, ond hefyd at harddwch y fflora a ffawna, a dawn syfrdanol natur o ran ei hadnewyddu ei hun.

Bydd y gwaith yn Oriel Turner House ym Mhenarth tan 9fed Rhagfyr, a bydd yn mynd ar daith i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Oriel Mostyn yn Llandudno’r flwyddyn nesaf.

Defnyddiwch adnoddau dysgu ar lein ffotogallery i brofi’r gwaith yn yr ystafell ddosbarth neu’r oriel.

Mae canllaw lawrlwythadwy ac awgrymiadau gweithgareddau o ran defnyddio’r gwaith yn yr Ystafell Ddosbarth, a ffilm fer sy’n rhoi lle amlwg i lyfrau braslunio’r artist ar gael ar y wefan. Fe gewch hefyd podcast – darn comisiwn sain arbennig gan y cyfansoddwr Matthew Lovett, lle clywch chi Mike Perry yn trafod ei gelfwaith, tirwedd Cymru a newidiadau amgylcheddol sy’n ei bygythio, o flaen cefnlen sain a recordiwyd ac a berfformiwyd yn y dirwedd.

Mae cyhoeddiad lliw llawn yn dod i ganlyn y sioe. Os carech gael copi electronig am ddim, ar gael i ysgolion neu golegau’n unig, neu os carech ddod â’ch grw^p i daith am ddim o gwmpas yr arddangosfa, cysylltwch â:

Lisa Edgar, Pennaeth Addysgu ar lisa@ffotogallery.org

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am yr arddangosfa, ac i lawrlwytho’r adnoddau

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD