Dyma ddiwrnod llawn o ddysgu proffesiynol am y celfyddydau mynegiannol wedi’i ddarparu gan dîm o artistiaid gweithredol. Yn ystod y dydd, cynhelir gweithgareddau celfyddydau gweledol, drama, cerddoriaeth, dawns a chelfyddydau digidol ochr yn ochr â’i gilydd, er mwyn amlygu ble mae gorgyffwrdd a chanolbwyntio ar gryfderau penodol pob disgyblaeth i ddatblygu sgiliau, creadigrwydd a gwydnwch disgyblion. Bydd y diwrnod yn rhoi syniadau ac ymagweddau i’r cyfranogwyr fynd â nhw yn ôl i’r ystafell ddosbarth ac i’w rhannu yn yr ystafell athrawon.
Yn unol â Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, gall addysgu’r celfyddydau yn drawsddisgyblaethol roi mwy o ddyfnder i ddysgu a phrofiadau disgyblion, ac mae’n ymagwedd sy’n adlewyrchu arfer y diwydiant creadigol cyfoes. Mae rhannu a chyfuno elfennau o’r pum disgyblaeth yn gallu ehangu gorwelion pob ffurf ar gelfyddyd. Mae hefyd yn cefnogi trosglwyddo sgiliau nid yn unig yn y maes dysgu celfyddydau mynegiannol, ond yn y cwricwlwm yn gyffredinol. Cynhelir y diwrnod yn ………… Gweinir lluniaeth yn ystod y dydd, ond ni fydd cinio’n cael ei ddarparu.