Bydd y ddwy sesiwn ar-lein 90 munud o hyd yma yn cefnogi athrawon yn y ffordd maen nhw’n gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu sgiliau cymryd risgiau creadigol drwy sgiliau arlunio. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu hyder wrth greu marciau, a byddan nhw’n cael eu grymuso i dderbyn ‘camgymeriadau’ fel rhan o’r broses greadigol.
Bydd y sesiynau’n defnyddio dull dysgu cyfunol, gyda chlipiau fideo byw, cyflwyniadau PowerPoint, ynghyd â thasgau ymarferol. Bydd y sesiynau’n annog y cyfranogwyr i ystyried ffyrdd o wahodd eu disgyblion i wneud cysylltiadau ac i berchnogi rhannu gwybodaeth a dysgu. Bydd gan y sesiynau ofod i fyfyrio a thrafod. Mae’r ail sesiwn yn dilyn y gyntaf, felly bydd angen i athrawon fynychu’r ddwy. Bydd tasg ymarferol yn cael ei gosod i’w chyflawni rhwng y sesiynau.