Sesiwn 1: Dylunio ap a phrototeipiau – Yn y sesiwn yma, byddwch chi’n dysgu sut mae dylunio ac adeiladu prototeipiau o ap gan ddefnyddio meddalwedd am ddim. Mae’r sesiwn wedi’i dylunio ar gyfer unrhyw faes cwricwlwm, ac yn ychwanegiad gwych i’r pecyn cymorth creadigol. Mae’r sesiwn yma’n addas i bawb, a does dim angen sgiliau digidol. Sesiwn 2: Creu ffilmiau – Dysgwch yr holl driciau ar gyfer creu ffilmiau yn yr ystafell ddosbarth. Gan ddefnyddio offer sydd wrth law a meddalwedd am ddim, bydd y sesiwn yn dangos i chi sut mae creu ffilmiau byrion gyda disgyblion o bob oed.