Dwy sesiwn yn cynnig ffyrdd newydd a gwahanol o gefnogi a dechrau creu cerddoriaeth yn yr ystafell ddosbarth. Bydd Helen yn mynd â’r cyfranogwyr drwy ystod o ymagweddau creadigol hygyrch y gellir eu haddasu a’u defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i ddatblygu sgiliau cerddoriaeth. Gan adeiladu a datblygu ar y deunydd a archwiliwyd yn y fideos Sgiliau dim Ffriliau, mae’r sesiynau yma’n ddelfrydol ar gyfer athro anarbenigol, ac yn cynnig ymagweddau tuag at gerddoriaeth sy’n cefnogi pob disgybl i fwynhau a chyfrannu.