Bydd ‘Blwch Trysor’ y Prosiect yn galluogi cyfranogwyr i danio eu dychymyg ar daith trwy ddarganfod a chreu trysor ac yn y pen draw sylweddoli eu bod nhw eu hunain yn drysor. Bydd y prosiect hwn yn archwilio themâu caredigrwydd a chysylltiad â’r hunan ac eraill, gan feithrin hunan-barch a bydd yn cefnogi cyfranogwyr i roi cynnig ar gyfryngau celfyddydol cymysg e.e. clai, gwehyddu, coladu, peintio a gweithio gyda gwlân a rhaff i greu trysor.
Darperir yr holl ddeunyddiau