Dydd Llun 28th Hydref 2024

Cwrs Cyfansoddwyr Ifanc Hydref

10:00AM - 1:30PM
Chapter Arts Centre

Ydych chi’n gerddor ifanc uchelgeisiol rhwng 14-18 oed?

Ydych chi am ddatblygu eich sgiliau cyfansoddi, offerynnu a chreu trefniannau?

Bydd cwrs Cyfansoddwyr Ifanc Actifyddion Artistig y tymor hwn yn canolbwyntio ar ddysgu i gyfansoddi ar gyfer triawd telyn, ffliwt a soddgrwth. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr a cerddorion proffesiynol ac yn cael eich tywys gan y cyfansoddwraig Natalie Roe.

 

 

Ar ddiwedd y cwrs 4-diwrnod AM DDIM hwn, cewch glywed eich cyfansoddiad yn cael ei chwarae’n fyw gan y cerddorion. Caiff y perfformiad ei recordio a’i anfon allan i chi ei gadw a’i gynnwys mewn unrhyw bortffolio y gallech fod yn ei adeiladu ar gyfer ysgol neu brifysgol.

 

Cwrs Cyfansoddwyr Ifanc Hydref Yn rhedeg o 28th Hydref 2024 hyd nes 31st Hydref 2024

  • 28th Hydref - 10:00AM-1:30PM
  • 29th Hydref - 10:00AM-1:30PM
  • 30th Hydref - 10:00AM-1:30PM
  • 31st Hydref - 10:00AM-1:30PM

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD