Gamelan
Cerddorfa offerynnau taro Jafanaidd lawn yw gamelan Neuadd Dewi Sant, o weithdy Pak Tentrem Sarwento yn Jafa. Prynwyd y set gan Ymddiriedolaeth Neuadd Dewi Sant a’r Theatr Newydd gynt (Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig bellach), gyda chymorth grant y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Cyrhaeddodd y gamelan Gaerdydd ym mis Ebrill 1998. Ers hynny, mae miloedd o bobl o bob oed wedi dod o bell ac agos i fwynhau chwarae a gwrando ar gerddoriaeth gamelan Neuadd Dewi Sant.
Mae grwpiau o ysgolion ledled y de wedi cymryd rhan mewn gweithdai blasu bywiog, yn aml gan gyd-chwarae fel dosbarth am y tro cyntaf. Mae gamelan yn rhywbeth y gall pawb ei fwynhau, a does dim angen unrhyw brofiad cerddorol blaenorol. Er y gall hi gymryd blynyddoedd i feistroli rhai darnau ac arddulliau, mae’n bosibl i grŵp chwarae darn syml yn yr arddull draddodiadol ar ôl awr neu ddwy yn unig. Mae ensemble gamelan Prifysgol Caerdydd a myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi elwa o gyfleoedd rheolaidd i chwarae gamelan Neuadd Dewi Sant, tra bo ein ensemble cymunedol, Gamelan Caerdydd, yn ymarfer bob nos Fawrth. Anfonwch e-bost i A2@arts-active-trust.flywheelstaging.com i gael rhagor o wybodaeth.
Rhowch gynnig ar gamelan
Yma yn Actifyddion Artistig, rydyn ni’n ceisio annog pobl, yn ifanc a hen, i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a’u mwynhau. Mae ein rhaglen gamelan yn cynnig cyrsiau a gweithdai rheolaidd i bobl o bob oed a gallu, gan roi cyfle iddyn nhw brofi natur gynhwysol gamelan. O weithdai dwy awr sy’n cyflwyno gamelan i bobl sydd erioed wedi rhoi cynnig arno o’r blaen, i gyrsiau penwythnos i bobl sy’n ymarfer yn rheolaidd ac am wella’u gwybodaeth a’u sgiliau, rydyn ni’n ceisio cynnig rhywbeth i bawb sydd â diddordeb ym myd gamelan.
Gamelan Caerdydd
Ein ensemble cymunedol yw Gamelan Caerdydd, sy’n cwrdd bob nos Fawrth. Mae’r repertorie yn cynnwys cerddoriaeth Jafanaidd draddodiadol a chyfansoddiadau gorllewinol ar gyfer gamlean. Mae gamelan yn set hynod o hyblyg o offerynnau, ac mae’n galluogi pobl o bob oed a gallu i gymryd rhan. Mae’r grŵp yn croesawu aelodau newydd i ymuno â’r grŵp gallu cymysg hwn, waeth faint o brofiad blaenorol sydd ganddyn nhw. Mae’r sesiwn yn cael ei chynnal yn Stiwdio Lefel 1 yn Neuadd Dewi Sant bob wythnos rhwng 6pm ac 8pm.
Cyfarwyddwr Cerddorol: Helen Woods | Cynhyrchydd Gamelan: Rhian Workman