Mae’r Lab Cerdd yn gyfle i archwilio posibiliadau technoleg cerdd fel ffordd o greu, recordio a golygu cerddoriaeth. Bydd y gweithdai’n ehangu eich ffiniau cyfansoddi a’ch technegau cynhyrchu.
Bydd y Lab Cerdd yn cael ei arwain gan y tiwtor Will Frampton, yn ogystal â detholiad o gerddorion proffesiynol. Bydd y cyfranogwyr yn creu seinweddau gyda’r cerddorion, gan ddefnyddio offerynnau cerdd traddodiadol yn ogystal â ffynonellau sain eraill, fel llais a sain a ganfyddir, i greu cerddoriaeth arbrofol a chelf sain. Bydd apiau, syntheseiddwyr, lŵps ac elfennau eraill o recordio a golygu sain hefyd yn cael eu defnyddio, a bydd croeso i gyfranogwyr ddod â’u hofferynnau eu hunain. Fydd dim rhwystrau i’ch creadigaethau!
Mae’r Lab Cerdd ar agor i unrhyw un rhwng 14 a 18 oed sydd â meddwl creadigol a brwdfrydedd am gerddoriaeth. Os ydych chi tu allan i’r ystod oedran yma, cysylltwch â ni drwy A2@artsactive.org.uk i drafod cyfleoedd eraill.
Mae’r Lab Cerdd, yn un o’r prosiectau sy’n rhan o raglen Pobl Ifanc Greadigol, sy’n rhaglen o weithgareddau amrywiol, archwiliadol, arloesol ac arbrofol gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer. Waeth beth yw’r ffurf ar gelfyddyd, wrth wraidd ein rhaglen ‘pobl ifanc greadigol’ mae’r awydd i annog chwilfrydedd dan arweiniad y celfyddydau, a chynnig ffordd o ddarganfod a gwella iaith o hunanfynegiant ymhlith cyfranogwyr.