Mae’r Lab Cerdd yn gyfle i bobl 14-19 oed archwilio posibiliadau technoleg cerdd fel ffordd o greu croestoriad rhwng genres cerddorol.
Yn arwain ar y Lab Cerdd bydd y tiwtoriaid Rob Westwood a Will Frampton, ynghyd â’r ensemble taro Quartet 19. Bydd hyn yn caniatáu cyfranogwyr i greu seinweddau gyda cherddorion proffesiynol, gan ddefnyddio offerynnau cerdd traddodiadol yn ogystal â ffynonellau sain eraill, fel llais a sain a ganfyddir, i greu cerddoriaeth arbrofol a chelf sain. Bydd apiau, syntheseiddwyr, lŵps ac elfennau eraill o recordio a golygu sain hefyd yn cael eu defnyddio, a bydd croeso i gyfranogwyr ddod â’u hofferynnau eu hunain. Fydd dim rhwystrau i’ch creadigaethau!