Ymunwch â’r Capten Michael Bell wrth iddo lywio Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd ar daith ryngalaethol drwy’r bydysawd. Wrth hedfan heibio i blanedau pellennig fel Iau, efallai y dewch chi ar draws bodau arallfydol. Ond peidiwch ag ofni, mae’r Swyddog Cyfathrebu Michael Church wedi’i recriwtio i sicrhau ein bod ni’n cadw at bob protocol diplomataidd ar y daith rhwng y sêr.
Yn ôl yr arfer, mae prom y teulu yn ffordd ddelfrydol o gyflwyno cerddoriaeth gerddorfaol i gynulleidfa iau. Mae’r gerddorfa’n wledd i’r llygad ac i’r glust, a chawn fwynhau rhaglen sy’n gyforiog o hen ffefrynnau’r gofod, a’r rheini wedi’u cyflwyno mewn ffordd hygyrch, hamddenol a llawn hwyl.