Soundworks

1:30PM - 3:00PM
St David's Hall

Mae Soundworks, ein gweithdai creu cerddoriaeth i oedolion sydd ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant yn ystod y tymor. Mae’r sesiynau cynhwysol hyn yn annog cyfranogwyr i fwynhau seiniau, rhythmau ac offerynnau mewn cyd-destun anffurfiol, hygyrch a diogel. Yn ystod y sesiynau, bydd y cyfranogwyr yn edrych ar gerrig sylfaen cerddoriaeth, gyda chymorth ac anogaeth eu gofalwyr. Mae’r sesiynau hefyd yn rhoi cyfle i ofalwyr ddatblygu sgiliau sy’n golygu defnyddio cerddoriaeth i feithrin sgiliau rhyngweithio cymdeithasol, sgiliau cyfathrebu a hyder eu cleientiaid.  

Dyma le creadigol sy’n llawn hwyl, yn gyfeillgar ac yn RHAD AC AM DDIM!

New for the autumn is the SOUNDWORKS Spotify playlist. Each week Phil & Emma will create a playlist based around the theme for the session for you to enjoy. You can download the link via our website or across our social medias as & when we post.
https://open.spotify.com/playlist/3erk4UI8ExxgVkF6WrmZ84?si=a991a690d7014f47

Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal bob dydd Mawrth ar Lefel 1 yn Neuadd Dewi Sant. Mae croeso i aelodau newydd – cysylltwch â ni dros e-bost: a2@arts-active-trust.flywheelstaging.com neu drwy ffonio 02920 878572

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD