17 Rhagfyr 2018

A2: Clymu – Rhwydwaith Celf ac Addysg Cydlynydd Cynorthwyol (Annibynnol)

Cytundeb byrdymor yw hwn o1 Chwefror – 31 Mawrth gyda golwg ar adolygu ac adnewyddu’r cytundeb gan ddibynnu ar gyllid prosiectau ar gyfer y flwyddyn 2019/20. Rhan amser tridiau’r wythnos £130 y diwrnod

Cefndir:

Rheolir rhwydwaith rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg A2 Clymu gan Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae tîm cyflenwi’r rhwydwaith dan arweiniad Cydlynydd sy’n gyfrifol am y prosiectau at ei gilydd. Mae’r Cydlynydd Cynorthwyol yn cydweithio’n glòs â chynorthwywr y Rhwydwaith ac â staff annibynnol sy’n cynhyrchu elfennau penodol o’r prosiect. Mae gofyn i rôl y cynorthwywr drafod a chydweithio’n glòs â chydlynydd y rhwydwaith, cynhyrchwyr prosiectau a rhanddeiliaid allweddol eraill y prosiect.

Diben y Swydd:

Cynorthwyo a chefnogi Cydlynydd Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg A2 Clymu i gyflenwi un o brif geinciau cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau yn rhanbarth Canol De Cymru.

Cynnig cymorth a chefnogaeth i helpu rhwydwaith rhanbarthol Canol De Cymru i:

Gynyddu a gwella i athrawon a dysgwyr yn y rhanbarth gyfleoedd i weithio gydag artistiaid a’r celfyddydau, cyrff diwylliannol a threftadaeth.

Creu rhagor o gyfleoedd i gyfathrebu a meithrin perthynas rhwng ysgolion, artistiaid, y celfyddydau, cyrff diwylliannol a threftadaeth.

Cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc yn y rhanbarth brofi gwaith artistiaid a chyrff celfyddydau, diwylliannol Cymru

Cynnig cymorth a chefnogaeth i gydlynydd y rhwydwaith i gyflenwi:

Rhaglen o gyfleoedd datblygu proffesiynol graenus i athrawon, artistiaid, cyrff celfyddydau a diwylliannol.

Rhaglen o gyfleoedd rhwydweithio i athrawon, artistiaid a chyrff o sectorau’r celfyddydau, creadigol, diwylliannol a threftadaeth – yn ddigidol ac wyneb yn wyneb ill dau.

Rhaglen sy’n cysylltu ysgolion ag artistiaid a chyrff yn y celfyddydau – yn gweithio fel ‘brocer’.

Casglu gwybodaeth am y ‘cynnig’ rhanbarthol a rhoi cyhoeddusrwydd i enghreifftiau o arfer gorau.

Rhaglen Hyrwyddwr Celfyddydau’r rhwydwaith rhanbarthol i athrawon, sydd eisoes yn ei lle.

Adroddiad chwarterol i gyllidwyr a rhanddeiliaid rhwydwaith y Celfyddydau ac Addysg.

Monitro ariannol gyllideb gweithgareddau’r rhwydwaith.

Efallai y bydd gofyn i chi:

Ddirprwyo dros Gydlynydd y Rhwydwaith lle bo angen.

Yn Neuadd Dewi Sant y mae canolfan weinyddol y swydd, fodd bynnag bydd gofyn i
chi weithio’n heini a theithio o gwmpas rhanbarth canol de Cymru ac o bryd i’w gilydd
ymhellach draw.

Manyleb y Person:

Byddwch yn unigolyn llawn cymhelliad a chanddo sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol.

Rhaid i chi allu profi eich bod wedi’ch cofrestru’n annibynnol.

Mae profiad o farchnata a’r cyfryngau cymdeithasol i’w fawr ddymuno.

Mae dealltwriaeth o arfer gweithio dwyieithog i’w dymuno ac yn ddelfrydol medru’r Gymraeg.

I Wneud Cais:

Anfonwch CV a llythyr eglurhaol sy’n amlinellu pam mae gennych ddiddordeb a pham rydych yn addas ar gyfer y rôl yma at:
a2@arts-active-trust.flywheelstaging.com
Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig
Neuadd Dewi Sant
Yr Aes
Caerdydd
CF10 1AH

Dyddiad Cau: dydd Gwener 4 Ionawr

Y dyddiad cyfweld a ragwelir: dydd Gwener Ionawr 11

Y dyddiad cychwyn cyn gynted ag y bo modd: Ionawr / Chwefror

Diwedd y cytundeb: 31 Mawrth

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD