Artistig Actifyddion Caerdydd Glasurol – elfennau ychwanegol

Mae rhaglen Actifyddion Artistig o ‘elfennau ychwanegol’ yn cefnogi cyfres Caerdydd Glasurol yn Neuadd Dewi Sant, gan ychwanegu at brofiad cerddorfaol cyffredinol ein cynulleidfaoedd.

Mae’n bleser gennym eich hysbysu y bydd rhaglen Glasurol Caerdydd o gyngherddau o ansawdd uchel yn parhau ledled y ddinas mewn lleoliadau amrywiol ar draws Caerdydd, tra bod Neuadd Dewi Sant ar gau dros dro. Bydd y cyngherddau hyn yn cael eu cyflwyno gan Actifyddion Artistig, yr adran ddysgu cymunedol a phartneriaethau allgymorth ar gyfer Cyngor Caerdydd, a leolwyd gynt yn Neuadd Dewi Sant.

Actifyddion Artistig Caerdydd Glasurol: Danteithion Blasus gyda ein Datganiadau Amser Cinio.

Mae’r rhaglen hon o gyngherddau hygyrch, anffurfiol yn rhoi proffil i lawer o gerddorion sefydledig ac adnabyddus, tra hefyd yn cefnogi artisitiad newydd o bob rhan o Gymru, y DU ac Ewrop. Bydd y datganiadau awr o hyd yma yn cael eu cynnal yng nghanol y ddinas yn Eglwys Dewi Sant, Cilgant San Andreas, ar ddydd Mawrth cyntaf o bob mis.

Sgyrsiau 

Mae’r sgyrsiau hyn yn rhoi gwybodaeth hollbwysig a llond gwlad o ffeithiau difyr mewn cwta awr, ac yn cael eu cyflwyno gyda thinc ysgafn a hwyliog gan Dr Jonathan James a Keith Chapin. Rydyn ni hefyd yn falch o gynnwys gwesteiwyr newydd ar gyfer y sgyrsiau diddorol yma cyn cyngherddau, Geraint Lewis – sy’n siarad Cymraeg – Martin Firth, Carlo Cenciarelli, Caroline Rae a Will Frampton, sy’n dod o Gymru a thu hwnt. Bydd pob cyflwynydd yn cynnig arddull unigryw ac ystod o wybodaeth i raglen gyfoethog ac amrywiol yr hydref, a gobeithio y gallwn ni greu profiad boddhaus a diddorol i bawb.  Y naill ffordd neu’r llall, mae digonedd i chi’i fwynhau.

Cynllun Cyfansoddwyr Ifanc

Mae’r Cynllun Cyfansoddwyr Ifanc yn rhoi cyfle i egin gerddorion ifanc rhwng 14 a 18 oed ddatblygu eu sgiliau cyfansoddi, offeryniaeth a threfnu cerddoriaeth. Mae’n gyfle gwerth chweil i bobl ifanc ddysgu gan gyfansoddwyr a cherddorion proffesiynol a gweithio ochr yn ochr â nhw; mae’n ddelfrydol i’r rheini sy’n datblygu portffolio o waith. Mae’r cyrsiau i gyfansoddwyr ifanc yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau hanner tymor a gwyliau’r haf – anfonwch e-bost i A2@arts-active-trust.flywheelstaging.com i gael rhagor o wybodaeth.

Rhaglen Ysgolion

Yn ystod y flwyddyn, byddwn ni’n gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd i gynnig prosiectau cyfansoddi a pherfformio. Mae’r prosiectau hyn yn amrywio drwy’r flwyddyn, felly cysylltwch ar bob cyfri’ i weld pa gyfleoedd cyffrous rydyn ni’n eu cynnig ar hyn o bryd.

Podlediadau

Mae’r rhain yn cael eu cyflwyno gan Jonathan James ac Angharad Smith, neu ‘JJ a Haz’ fel maen nhw’n cael eu galw weithiau. Bydd y ddau’n trin a thrafod cerddoriaeth a genres o bob math, gan rannu’u hoff ddarnau personol â chi, ynghyd â chyflwyno ambell jôc gerddorol sy’n rhoi ymdeimlad chwareus ac anffurfiol i’r podlediad.Mae’r podlediadau’n cael eu huwchlwytho bob mis, ac mae modd eu gweld ar y rhan fwyaf o blatfformau podlediadau drwy chwilio am ‘Braving the Stave’. Fel arall, cliciwch fan hyn: Braving the Stave

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD