Information and Application Form
We are looking for Arts Champions who are based in primary, secondary and special needs education, whether a qualified teacher or teaching assistant who are willing to share their skills, experience, expertise and most of all enthusiasm with other teachers and schools, and take on the role of public advocates of arts activity and experiencing the arts in education.
The Network will provide funding to schools to cover the release of these Champions who will spend short periods of time promoting best practice, training, supporting others to adopt similar approaches.
Application is by submission of the following:
- A current C.V.
- A letter of interest outlining why you would like to take on the role.
- Details of two referees that can vouch for your work promoting the arts in school.
- Examples of work, relevant to the essence of becoming an Arts Champion, that you would like to share with us (web-links acceptable).
- A letter of endorsement signed by the Headteacher and school governing body
The closing date for applications is Friday 7 July 2017.
Please use this application form to apply
If you have any queries about the Champions scheme please contact Bryony Harris.
Why should you become an Arts Champion?
There are many benefits to your school if you or a colleague becomes an Arts Champion:
- Being a vital part of the National Creative Learning plan.
- Enhanced preparation for applying the new Curriculum for Wales.
- Expanding knowledge and experience of the individual teacher and hence the school.
- Bringing new ideas into the school.
- New ideas linking into school improvement plan.
- Providing in-house training for your school.
- The school will be intensely linked to the ‘Arts Champion’ community.
- Career enhancing and morale boosting for the teacher.
- Costs covered. All the above benefits are at no cost to the school.
Gwybodaeth ac Ffurflen Gais
Rydym yn chwilio am Hyrwyddwyr Celfyddydau sydd â’u canolfan mewn addysg gynradd, uwchradd ac anghenion arbennig, pa un ai’n athrawon cymwys neu’n gynorthwywyr dysgu, sy’n fodlon rhannu eu sgiliau, eu profiad, eu gwybodaeth arbenigol ac yn anad dim eu brwdfrydedd ag athrawon ac ysgolion eraill, ac ysgwyddo rôl pleidwyr cyhoeddus gweithgaredd yn y celfyddydau a phrofi’r celfyddydau ym myd addysg.
Rhydd y Rhwydwaith gyllid i ysgolion i wneud iawn am ryddhau’r Hyrwyddwyr hyn a fydd yn treulio cyfnodau byr yn hyrwyddo arfer gorau, yn hyfforddi ac yn cefnogi eraill i fabwysiadu cyrchddulliau tebyg.
Mae gofyn cyflwyno’r canlynol i wneud cais:
- CV Cyfredol
- Llythyr i fynegi diddordeb, yn amlinellu pam rydych am ysgwyddo’r rôl.
- Manylion dau ganolwr sy’n gallu rhoi gair dros eich gwaith yn hyrwyddo’r celfyddydau yn yr ysgol.
- Enghreifftiau o waith sy’n berthnasol i hanfod mynd yn Hyrwyddwr Celfyddydau, y carech eu rhannu â ni (cysylltau’r we yn dderbyniol).
- Llythyr cymeradwyo wedi’i lofnodi gan y Prifathro a chorff llywodraethol yr ysgol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydi dydd Gwener 7 Gorffenaf.
Os gwelwch yn dda defnyddiwch y ffurflen gais hon i wneud cai
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cynllun Hyrwyddwyr cysylltwch â Bryony Harris
Pam ddylech chi fod yn Hyrwyddwr Celfyddydau?
Mae yna fanteision lawer i’ch ysgol os ewch chi neu un o’ch cydweithwyr yn Hyrwyddwr Celfyddydau:
- Bod yn rhan hanfodol o’r cynllun Dysgu Creadigol Cenedlaethol.
- Gwella paratoi ar gyfer rhoi ar waith y Cwricwlwm i Gymru newydd.
- Ehangu gwybodaeth a phrofiad yr athro unigol a chan hynny’r ysgol.
- Dod â syniadau newydd i’r ysgol.
- Syniadau newydd yn cysylltu â chynllun gwella’r ysgol.
- Darparu hyfforddiant mewnol ar gyfer eich ysgol.
- Bydd yr ysgol yn rhan annatod o’r gymuned ‘Hyrwyddwyr Celfyddydau’.
- Gwella gyrfa a chodi calon yr athro.
- Ymorolir am y costau. Ni fydd yr ysgol yn mynd i unrhyw gost am yr holl fanteision uchod.