Ein Cefndir

A large group of mostly older adults are posing and smiling for a group photo in a room.

Ymddiriedolaeth elusennol annibynnol yw Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig, a’i nod yw helpu pobl i fwynhau’r celfyddydau drwy ei rhaglen o weithgareddau creadigol a chyfranogol yng Nghaerdydd a’r cylch.

Ein gweledigaeth

Drwy raglen gynhwysol a hygyrch o weithgareddau a chyfleoedd artistig sydd o fudd i amrywiaeth eang o bobl a chymunedau, nod ein gwaith yw helpu pobl i ddysgu’n well, grymuso cymunedau, gwella bywydau a lles, ehangu gorwelion, a chreu gwell canlyniadau bywyd i bobl.

Ein cenhadaeth

Ennyn diddordeb ein cymunedau lleol drwy gynlluniau a gweithgareddau sy’n bywiogi’r dychymyg ac yn ysgogi’r enaid. Annog pobl o bob oed i fwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, gan roi profiadau dysgu hygyrch, lleol a gweddnewidiol sydd wedi’u seilio ar y celfyddydau.

Ein gwaith

Rydyn ni’n darparu rhaglen feiddgar o weithgareddau creadigol i’n holl gymunedau ledled Caerdydd a rhanbarth y de, gan roi pwyslais penodol ar bobl ifanc a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ac sy’n agored i niwed. Rhan bwysig o’n gwaith, y tu hwnt i ddarparu gweithgareddau, yw cefnogi a chyfeirio pobl at gyfleodd i ymwneud â gweithgareddau creadigol. Rydyn ni’n credu bod gwerth mewn ymwneud â chreadigrwydd ar bob lefel, gan y bydd yn ysgogi pobl i gynhyrchu’n greadigol ac i gymryd rhan yn y celfyddydau yng Nghymru. Ond mae iechyd a lles ein cymunedau yn y dyfodol yn bwysig hefyd – yn gynulleidfaoedd, yn gefnogwyr brwd, yn arweinwyr ac yn rhanddeiliaid – wrth ymwneud â’r rhan hollbwysig hon o hunaniaeth a bywyd diwylliannol Cymru.

Y Tîm

  • A woman with short, reddish-brown hair looks thoughtfully to the side while sitting in a brightly lit home interior.

    Bryony Harris

    Rheolwr Cymunedau, Dysgu a Phartneriaethau, Chyfarwyddwr Rhaglenni ac Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig

    Fi yw’r Rheolwr Cymunedau, Dysgu a Phartneriaethau Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, a Chyfarwyddwr Rhaglenni ac Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig. Mae fy nghefndir mewn hanes celf, celf a Saesneg. Yn blentyn, roeddwn i’n ddawnswraig bale frwd, ond golygodd salwch yn fy arddegau i mi orfod cefnu ar fy mreuddwydion yn y maes hwnnw. Dyma pryd ddysgais i drosof fy hun sut y gall creadigrwydd roi sylfaen i’ch lles cyffredinol ac i’ch ymdeimlad o bwy ydych chi. Rydw i’n goruchwylio’r broses o ddatblygu Actifyddion Artistig o safbwynt creadigol a safbwynt busnes, ynghyd â rhoi gweledigaeth Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig ar waith.

  • A woman with brown shoulder-length hair, wearing colourful rainbow-rimmed glasses and a maroon jumper smiling warmly.

    Rhian Workman

    Dirprwy Reolwr Cymunedau, Dysgu a Phartneriaethau

    Rydw i’n gweithio gyda Bryony Harris i ddylunio, rhaglennu a chynnal prosiectau Actifyddion Artistig. Mae gen i gefndir mewn cerddoriaeth fel perfformwraig, athrawes ac arweinydd gweithdai, ac rydw i’n frwd dros wneud y celfyddydau yn agored ac yn hygyrch i bawb.

  • A smiling woman with light brown hair wearing a floral top holds up her hand to wave to the camera.

    Suzanne Smart

    Cynorthwyydd Cymunedau, Dysgu a Phartneriaethau

    Rydw i’n cyfrannu at y gwaith trefnu ac yn sicrhau bod amrywiaeth o brosiectau’n mynd rhagddyn nhw’n ddirwystr, gan gynnwys Soundworks, Open Orchestras, Cyfansoddwyr Ifanc a Phrom Tidli. Rydw i hefyd yn rhoi cymorth cyffredinol i’r holl dîm, gan roi help llaw pan fydd galw. Ar brydiau, fe fydda’ i hyd yn oed yn cael cyfrannu fy sgiliau fel cerddor, sy’n dipyn o hwyl!

  • Portrait of a smiling red-haired woman wearing a blue knitted cardigan.

    Eve Woods

    Cymorth Marchnata a Chyfryngau Cymdeithasol

    Rwy’n creu’r gwaith marchnata i hyrwyddo ein holl raglenni gwych yn ogystal â rheoli’r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth i gymunedau a bywydau pobl. Y peth pwysicaf i mi yw gwneud dyluniadau marchnata effeithiol a chreadigol sy’n lledaenu’r newyddion am yr hyn y mae sefydliadau anhygoel yn ei wneud!

Bwrdd Ymddiriedolwyr Actifyddion Artistig

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cyfrannu sgiliau eang iawn at waith y sefydliad. Mae’r Ymddiriedolwyr yn unigolion ymroddedig, ac mae ganddyn nhw i gyd gysylltiadau a diddordebau yn y sector creadigol. 

  • Headshot of a man wearing glasses and a navy shirt, photographed against a plain light background.

    David Baxter

    Cadeirydd y Bwrdd

    Rheolwr prosiectau celfyddydol, cynhyrchydd ac ymgynghorydd llawrydd yw David. Tan yn ddiweddar, David oedd Rheolwr Cyffredinol Theatr Borough yn y Fenni i Gyngor Sir Fynwy, a chyn hynny bu’n Bennaeth Actifyddion Artistig, sef uned ymgysylltu â chynulleidfa, cymuned ac addysg yn Neuadd Dewi Sant a’r Theatr Newydd, Caerdydd, am flynyddoedd lawer.

  • Lowri Mair Jones (Lowri Hale)

    Ymddiriedolwyr

    Mae Lowri Mair Jones yn weinyddwraig celfyddydau medrus gyda dros ddegawd o brofiad yn darlledu yn y BBC, yn arbenigo mewn digwyddiadau cerddoriaeth a chelfyddydau proffil uchel. Mae ei gwaith wedi cynnwys cynyrchiadau mawr fel BBC Young Musician, BBC Young Dancer, Cardiff Singer of the World, a Glastonbury, yn ogystal â chyfnod yn Addysg yn y BBC.

    Yn gyfansoddwraig arobryn, cafodd Lowri ei hanrhydeddu â Thlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 a chyrhaeddodd rownd derfynol yr un wobr yn 2024. Yn ddiweddar, mae hi wedi cwblhau sawl comisiwn nodedig, gan gynnwys cyfansoddiadau i Gerddorfa Symffoni Cwm Rhondda, Côr Godre’r Garth, sgôr ffilm i S4C, a nifer o weithiau newydd wedi’u hamserlennu ar gyfer 2025.

  • Professional headshot of a smiling woman with blonde hair wearing a black turtleneck against a teal background.

    Lowri Mair Jones

    Ymddiriedolwyr

    Mae Lowri Mair Jones yn weinyddwraig celfyddydau medrus gyda dros ddegawd o brofiad yn darlledu yn y BBC, yn arbenigo mewn digwyddiadau cerddoriaeth a chelfyddydau proffil uchel. Mae ei gwaith wedi cynnwys cynyrchiadau mawr fel BBC Young Musician, BBC Young Dancer, Cardiff Singer of the World, a Glastonbury, yn ogystal â chyfnod yn Addysg yn y BBC.

    Yn gyfansoddwraig arobryn, cafodd Lowri ei hanrhydeddu â Thlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 a chyrhaeddodd rownd derfynol yr un wobr yn 2024. Yn ddiweddar, mae hi wedi cwblhau sawl comisiwn nodedig, gan gynnwys cyfansoddiadau i Gerddorfa Symffoni Cwm Rhondda, Côr Godre’r Garth, sgôr ffilm i S4C, a nifer o weithiau newydd wedi’u hamserlennu ar gyfer

  • Headshot of a smiling man in a blue suit and tie against a blurred green background.

    Brian Weir

    Ymddiriedolwyr

    Yn Gyfarwyddwr Gweinyddiaeth Academaidd a Phrofiad Myfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae gan Brian Weir, sydd wedi graddio mewn cerddoriaeth, dros ugain mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes addysg y celfyddydau. Mae ei feysydd arbenigol yn cynnwys ehangu cyfranogiad, cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu, cymorth dysgu arbenigol a llywodraethu elusennol.  Mae’n aelod o Uwch Dîm Rheoli’r Coleg, ac mae hefyd yn Ymddiriedolwr i Gerddorfa Blant Genedlaethol Prydain Fawr ac yn Gadeirydd ar Lywodraethwyr ei ysgol gynradd leol.

  • Headshot of Christina Macaulay smiling, with light brown shoulder-length hair and glasses, wearing a blue cardigan.

    Christina Macaulay

    Ymddiriedolwyr

    Mae Christina’n chwarae rhan weithgar ym myd cerddoriaeth, y celfyddydau a diwylliant Cymru ers dros 30 mlynedd. O’r Alban mae hi’n wreiddiol, ond symudodd i Gaerdydd ar ddechrau’r 1990au i sefydlu cyfres gelfyddydol (The Slate) i BBC Wales. Drwy ei gyrfa yn y cyfryngau daeth yn olygydd comisiynu ar gyfer teledu BBC Wales, gan arbenigo mewn rhaglenni cerddoriaeth a chelfyddydol, yn ogystal â bod yn gyfrifol am ystod eang o raglenni dogfen ffeithiol.

    Yn ogystal ag eistedd ar fwrdd Actifyddion Artistig, mae Christina yn aelod o gyngor Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yn aelod o fwrdd y sefydliad cerddoriaeth Tŷ Cerdd. Mae’n aelod o BAFTA ac yn gymrawd Cymdeithas Hynafiaethwyr yr Alban.

  • A woman with straight auburn hair and bangs, green eyes, and dangling earrings, smiling softly against a green background.

    Ruby Llewelyn

    Ymddiriedolwyr

    Mae Ruby Llewelyn yn fyfyrwraig Gwleidyddiaeth a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn eiriolwr ieuenctid sydd wedi ymrwymo i gryfhau llais cymunedol, cyfathrebu creadigol ac effaith gymdeithasol.

    Mae hi’n dod â phrofiad o fyd llywodraethu, addysg a’r celfyddydau — yn gyn actores broffesiynol pan oedd yn blentyn yn gweithio ar draws theatr a ffilm, a bellach yn gwasanaethu fel Seneddwr Myfyrwyr, yn raddedig o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn aelod bwrdd hirsefydledig mewn sefydliadau ieuenctid a diwylliannol cenedlaethol gan gynnwys Valleys Kids a Chanolfan Mileniwm Cymru.

    Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, mae Ruby yn ymarferydd celfyddydau ieuenctid profiadol gyda hanes cryf mewn cynrychioli pobl ifanc, adrodd straeon a datblygu cymunedol; ac mae’n edrych ymlaen at ddod â’i phrofiad traws-sector i’w gwaith gydag Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig!

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD