Ein Cefndir

Ymddiriedolaeth elusennol annibynnol yw Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig, a’i nod yw helpu pobl i fwynhau’r celfyddydau drwy ei rhaglen o weithgareddau creadigol a chyfranogol yng Nghaerdydd a’r cylch.

Ein gweledigaeth

Drwy raglen gynhwysol a hygyrch o weithgareddau a chyfleoedd artistig sydd o fudd i amrywiaeth eang o bobl a chymunedau, nod ein gwaith yw helpu pobl i ddysgu’n well, grymuso cymunedau, gwella bywydau a lles, ehangu gorwelion, a chreu gwell canlyniadau bywyd i bobl.

Ein cenhadaeth

Ennyn diddordeb ein cymunedau lleol drwy gynlluniau a gweithgareddau sy’n bywiogi’r dychymyg ac yn ysgogi’r enaid. Annog pobl o bob oed i fwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, gan roi profiadau dysgu hygyrch, lleol a gweddnewidiol sydd wedi’u seilio ar y celfyddydau.

Ein gwaith

Rydyn ni’n darparu rhaglen feiddgar o weithgareddau creadigol i’n holl gymunedau ledled Caerdydd a rhanbarth y de, gan roi pwyslais penodol ar bobl ifanc a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ac sy’n agored i niwed. Rhan bwysig o’n gwaith, y tu hwnt i ddarparu gweithgareddau, yw cefnogi a chyfeirio pobl at gyfleodd i ymwneud â gweithgareddau creadigol. Rydyn ni’n credu bod gwerth mewn ymwneud â chreadigrwydd ar bob lefel, gan y bydd yn ysgogi pobl i gynhyrchu’n greadigol ac i gymryd rhan yn y celfyddydau yng Nghymru. Ond mae iechyd a lles ein cymunedau yn y dyfodol yn bwysig hefyd – yn gynulleidfaoedd, yn gefnogwyr brwd, yn arweinwyr ac yn rhanddeiliaid – wrth ymwneud â’r rhan hollbwysig hon o hunaniaeth a bywyd diwylliannol Cymru.

Pwy ydyn ni

  • Bryony Harris

    Rheolwr Cymunedau, Dysgu a Phartneriaethau Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, a Chyfarwyddwr Rhaglenni ac Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig

    Fi yw’r Rheolwr Cymunedau, Dysgu a Phartneriaethau Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, a Chyfarwyddwr Rhaglenni ac Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig. Mae fy nghefndir mewn hanes celf, celf a Saesneg. Yn blentyn, roeddwn i’n ddawnswraig bale frwd, ond golygodd salwch yn fy arddegau i mi orfod cefnu ar fy mreuddwydion yn y maes hwnnw. Dyma pryd ddysgais i drosof fy hun sut y gall creadigrwydd roi sylfaen i’ch lles cyffredinol ac i’ch ymdeimlad o bwy ydych chi. Rydw i’n goruchwylio’r broses o ddatblygu Actifyddion Artistig o safbwynt creadigol a safbwynt busnes, ynghyd â rhoi gweledigaeth Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig ar waith.

  • Rhian Workman

    Dirprwy Reolwr Cymunedau, Dysgu a Phartneriaethau Neuadd Dewi Sant

    Rydw i’n gweithio gyda Bryony Harris i ddylunio, rhaglennu a chynnal prosiectau Actifyddion Artistig. Mae gen i gefndir mewn cerddoriaeth fel perfformwraig, athrawes ac arweinydd gweithdai, ac rydw i’n frwd dros wneud y celfyddydau yn agored ac yn hygyrch i bawb.

  • Suzanne Smart

    Cynorthwyydd Cymunedau, Dysgu a Phartneriaethau yn Neuadd Dewi Sant

    Rydw i’n cyfrannu at y gwaith trefnu ac yn sicrhau bod amrywiaeth o brosiectau’n mynd rhagddyn nhw’n ddirwystr, gan gynnwys Soundworks, Open Orchestras, Cyfansoddwyr Ifanc a Phrom Tidli. Rydw i hefyd yn rhoi cymorth cyffredinol i’r holl dîm, gan roi help llaw pan fydd galw. Ar brydiau, fe fydda’ i hyd yn oed yn cael cyfrannu fy sgiliau fel cerddor, sy’n dipyn o hwyl!

  • Tom Goddard

    Cynhyrchydd Prosiect Llawrydd Criw Celf

    Artist gweledol o Gaerdydd ydw i, ac rydw i’n gweithio ar y groesffordd rhwng ymarfer creadigol ac addysg, gyda fy ngwaith diweddar yn edrych ar effaith technoleg ddigidol ar ein bywydau. Ar hyn o bryd, fi sy’n rhaglennu cynllun Criw Celf ar gyfer Actifyddion Artistig, sef cynllun hygyrchedd cenedlaethol yn y celfyddydau gweledol i bobl ifanc. Rydw i’n aelod o gentle/radical, sef sefydliad celfyddydol cymunedol sy’n gweithio yn ne Riverside, ac ar hyn o bryd rydw i’n aelod o fwrdd a-n – y cwmni gwybodaeth i artistiaid. Wedi’i blethu drwy fy holl waith y mae fy nghred bod gan bawb hawl sylfaenol i fynegi’u hunain yn greadigol.

  • Patricia O’Sullivan

    Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu Llawrydd i Actifyddion Artistig

    Rydw i wedi gweithio yn y celfyddydau ers dros 30 mlynedd, gan gynnwys gyda nifer o sefydliadau, lleoliadau a chwmnïau celfyddydol yng Nghymru. Mae llawer o fy ngwaith wedi cynnwys prosiectau celfyddydol cymunedol a chyfranogol, a phrosiectau sy’n golygu ymwneud â phobl, gyda phwyslais penodol ar addysg, cynhwysiant, amrywiaeth a lles. Fi sy’n rheoli’r gwaith marchnata a chyfathrebu i holl brosiectau Actifyddion Artistig ac Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig, gyda chymorth tîm Actifyddion Artistig. Ar hyn o bryd, rydw i’n un o Ymddiriedolwyr y Tin Shed Theatre Company, cwmni theatrig o arloeswyr creadigol, gwneuthurwyr ac artistiaid llawrydd, a hwnnw’n arbenigo mewn gweithgarwch celfyddydol a darpariaeth allgymorth creadigol yng Nghymru. Yn fy amser hamdden, rydw i’n hoff iawn o ddylunio mewnol.

Bwrdd Ymddiriedolwyr Actifyddion Artistig

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cyfrannu sgiliau eang iawn at waith y sefydliad. Mae’r Ymddiriedolwyr yn unigolion ymroddedig, ac mae ganddyn nhw i gyd gysylltiadau a diddordebau yn y sector creadigol. 

  • Geraint Davies CBE

    Chair

    Mae Geraint Davies yn gyfrifydd siartredig a gymhwysodd ym 1979 gyda chwmni rhagflaenol PwC. Rhwng 1988 a 2013, roedd yn bartner yn Grant Thornton, a gorffennodd ei yrfa wrth ymddeol fel Uwch Bartner, Cymru. Mae Geraint yn gyfarwyddwr ar nifer o gwmnïau, gan gynnwys GCRE Ltd. Mae’n gadeirydd ar sawl elusen ac yn eistedd ar bwyllgor archwilio busnesau nid-er-elw eraill. Ers 2017, mae wedi bod yn ymwneud â’r Cyngor Adrodd Ariannol, ac mae bellach yn aelod Panel ymgynghorol. Mae gan Geraint lawer o brofiad yn gweithio gydag elusennau ac yn codi arian. Roedd yn aelod o Fwrdd Canolfan Mileniwm Cymru (drwy’r cyfnod datblygu ac adeiladu a’r blynyddoedd gweithredol cyntaf) a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (gan orffen yno fel Is-Gadeirydd), ac mae bellach yn Gymrawd iddynt. Mae wedi bod yn ymgynghorydd arweiniol i elusennau Aberfan ers dros ddeugain o flynyddoedd, ac mae bellach yn cynorthwyo Comisiwn Coffa Tŵr Grenfell. Fe’i wnaed yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn y Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd ym mis Rhagfyr 2012 am ei ddegawdau o waith gwirfoddol i sefydliadau elusennol yng Nghymru.

  • Catherine Nightingale

    Pennaeth Llywodraethu, Y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol Cymreig

    Treuliodd Catherine lawer o flynyddoedd fel cyfreithiwr mewn practis preifat, ac mae bellach yn gweithio mewn swydd lywodraethu i elusen wirfoddoli genedlaethol. Yn ogystal â’i swydd fel Ymddiriedolwr yn Actifyddion Artistig, mae Catherine hefyd yn Ymddiriedolwr ar gyfer Bwrdd Cyllid Esgobaeth Llandaf ac yn cefnogi elusennau lleol eraill sy’n gweithio i drawsnewid bywydau menywod a merched. Mae Catherine yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’i merch.

  • Rosie Sweetman

    Hyfforddwr, Hwylusydd ac Ymgynghorydd Gweithredol

    Mae Rosie yn hwylusydd ac yn Hyfforddwr Gweithredol Proffesiynol cymwysedig ac achrededig sy’n gweithio gydag arweinwyr ar draws sector y celfyddydau, y trydydd sector a’r sector preifat. Sefydlodd y gorfforaeth B glodwiw, Sweetmans and Partners, yn 2016, ar ôl bod â swyddi datblygu busnes blaenorol yn Arts&Business, Grant Thornton, ac yn fwyaf diweddar roedd yn Gyfarwyddwr ar Business in the Community Cymru.

  • David Baxter

    Rheolwr Theatr, Theatr Bwrdeistref y Fenni

    David yw Rheolwr Borough Theatre yn y Fenni. Mae’n gyn Gyfarwyddwr Artistig i Actifyddion Artistig. Fe raddiodd o Goleg Celfyddydau Dartington, ac mae David wedi gweithio i lawer o sefydliadau Celfyddydau a Diwylliannol ledled gwledydd Prydain. Mae’n darlithio ar y cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae’n aelod o fwrdd Citrus Arts – cwmni celfyddydau yn y Rhondda sy’n cyfuno syrcas, theatr a dawns a gaiff eu perfformio a’u meithrin gyda chymunedau. Mae David wedi arwain a chynhyrchu ystod o berfformiadau celfyddydau cyfranogol, addysg a chymunedol graddfa fawr, mewn lleoliadau sy’n amrywio o Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru i Waith Haearn Blaenafon.

  • Brian Weir

    Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

    Yn Gyfarwyddwr Gweinyddiaeth Academaidd a Phrofiad Myfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae gan Brian Weir, sydd wedi graddio mewn cerddoriaeth, dros ugain mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes addysg y celfyddydau. Mae ei feysydd arbenigol yn cynnwys ehangu cyfranogiad, cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu, cymorth dysgu arbenigol a llywodraethu elusennol.  Mae’n aelod o Uwch Dîm Rheoli’r Coleg, ac mae hefyd yn Ymddiriedolwr i Gerddorfa Blant Genedlaethol Prydain Fawr ac yn Gadeirydd ar Lywodraethwyr ei ysgol gynradd leol.

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD