25 Awst 2026

‘Flamboyant, Red-Hot, Pink Lego’ – Cân Newydd gan Gyfansoddwyr Iau Actifyddion Artistig

Ar 7 Awst 2026, daeth grŵp o blant 10 – 13 oed at ei gilydd ar gyfer cwrs Cyfansoddwyr Iau cyntaf erioed Actifyddion Artistig. Mae Cyfansoddwyr Iau yn gangen newydd o Gyfansoddwyr Ifanc; cwrs i bobl 14 – 18 oed y mae Actifyddion Artistig wedi bod yn ei ddarparu ers 2014. Crëwyd y cwrs mewn ymateb i alw mawr am fersiwn o Gyfansoddwyr Ifanc ar gyfer plant iau.

Cafodd y cwrs ei gynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter a’i arwain gan y gyfansoddwraig broffesiynol ac arbenigwraig gamelan, Helen Woods. Cafodd y myfyrwyr eu cyflwyno i offerynnau gamelan ac fe wnaethant ddysgu sut i chwarae gangsaran traddodiadol o Java, cyn cymryd rhan mewn ymarfer grŵp i greu cerddoriaeth. Dilynwyd hyn gan ymarfer i feddwl am deitl ar gyfer cyfansoddiad newydd i weithio arno. Y teitl canlyniadol oedd Flamboyant, Red-Hot, Pink Lego! Yna rhannwyd y grŵp yn dri grŵp llai, pob un â’r dasg o greu naill ai dechrau, canol neu ddiwedd y darn. Yna daeth pawb yn ôl at ei gilydd i weithio ar roi’r tair rhan at ei gilydd i greu’r gân derfynol. Ar ddiwedd y dydd, cafodd y darn ei berfformio i rieni’r plant a’i recordio. Yn ddiweddarach golygodd Helen y recordiad ac fe’i hanfonwyd at y plant i wrando arno.

Disgrifiodd y plant y cwrs fel ‘addysgol’, ‘eithaf da’, ‘hwyl’ a ‘chyffrous’ a gwnaeth y sylwadau canlynol:

“Dysgais i lawer mewn dim ond pum awr.”

“Byddwn i’n ei wneud bob dydd.”

“Roeddwn i wrth fy modd â’r sesiwn, roedd y bobl yn neis iawn ac mae’r offerynnau yn hwyl iawn!!” Darganfyddwch ragor am raglen gamelan Actifyddion Artistig yma

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD