Gamelan

Cerddorfa offerynnau taro lawn yw’r gamelan, o weithdy Pak Tentrem Sarwento yn Jafa. Bydd y sesiynau’n annog pobl, yn hen ac ifanc, i fwynhau cymryd rhan mewn gweithgaredd celfyddydol, ac i brofi natur gynhwysol gamelan.

Rhowch gynnig ar gamelan

Gamelan Caerdydd

Mae grwpiau o ysgolion ledled y de wedi cymryd rhan mewn gweithdai blasu bywiog, yn aml gan gyd-chwarae fel dosbarth am y tro cyntaf. Mae gamelan yn rhywbeth y gall pawb ei fwynhau, a does dim angen unrhyw brofiad cerddorol blaenorol. Er y gall hi gymryd blynyddoedd i feistroli rhai darnau ac arddulliau, mae’n bosibl i grŵp chwarae darn syml yn yr arddull draddodiadol ar ôl awr neu ddwy yn unig.

Mae ensemble gamelan Prifysgol Caerdydd a myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi elwa o gyfleoedd rheolaidd i chwarae gamelan Neuadd Dewi Sant, tra bo ein ensemble cymunedol, Gamelan Caerdydd, yn ymarfer bob nos Fawrth.

Anfonwch e-bost i A2@arts-active-trust.flywheelstaging.com i gael rhagor o fanylion am y sesiynau neu i wybod sut i ymuno â’n gweithdai wythnosol. I gael gwybodaeth am becynnau a’r costau i ysgolion, cliciwch fan hyn:

Gweithdai i ysgolion

Mae gweithdai blasu gamelan Neuadd Dewi Sant yn cyflwyno myfyrwyr i gerddoriaeth Jafa. Mae’r holl offerynnau cain yn Neuadd Dewi Sant wedi’u creu o efydd, ac mae ganddyn nhw gerfiadau pren traddodiadol sydd wedi’u gwneud â llaw. Mae’r gamelan yn cynnwys offerynnau taro wedi’u tiwnio, drymiau a gongiau. Mae edrychiad yr offerynnau eu hunain yn ddigon i gyfleu ymdeimlad o ddiwylliant Jafa, ac mae’r seiniau a’r gerddoriaeth yn gwbl wefreiddiol – mae’n rhyfeddod addysgiadol.

Mae’r gamelan yn brofiad cyffrous, llawn hwyl, ac mae’n gallu gwneud cyfraniad o bwys at addysg gerddorol ar bob lefel.  Mae ein sesiynau gamelan yn rhoi sylw i nifer o’r cysyniadau yn y cwricwlwm cerddoriaeth yng nghyfnodau allweddol 1, 2 a 3, gan gynnwys y cysylltiadau â’r fframwaith rhifedd a llythrennedd. Nid yn unig y mae gamelan yn ffordd effeithiol o ddysgu am ‘gerddoriaeth diwylliannau eraill’, ond mae’n gallu cyfrannu hefyd at addysgu cerddoriaeth mewn ffyrdd eraill, gan roi cyfle i bobl ddefnyddio seiniau newydd ac ymateb i gerddoriaeth fel unigolion ac fel dosbarth.

Mae gweithdai gamelan Neuadd Dewi Sant wedi’u canmol gan Viv John, Ysgol Addysg Caerdydd, UWIC. “Roedd hi’n wych gallu chwarae offerynnau o’r iawn ryw a chafodd y myfyrwyr gyfle i ddysgu am yr arddull yn ogystal â chael syniadau da am sut i ddefnyddio hyn mewn ystafell ddosbarth”. 

Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu’n weithgar ac yn greadigol drwy’r holl sesiwn, sy’n datblygu eu sgiliau gwrando, eu hystwythder a’u sgiliau creu cerddoriaeth mewn grŵp. Yn ei dro, mae hyn yn gwella’u gallu i ddatrys problemau ac i gyfathrebu, ac mae’n hwb i’w hyder – sydd i gyd yn werthfawr yn natblygiad personol ac academaidd pobl. Mae gamelan yn rhoi cyfle i addysgu myfyrwyr mewn amgylchedd hamddenol, llawn mwynhad. Does dim angen profiad i gymryd rhan yn y gweithdy unigryw hwn. Mae’r sesiynau’n cael eu harwain gan gerddorion gamelan profiadol, ac maen nhw’n hynod o fuddiol i fyfyrwyr ac athrawon.

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD