Ddydd Mawrth 8 Gorffennaf, daeth tymor yr haf Soundworks i ben gyda digwyddiad awyr agored gwych yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin. Fe wnaeth band samba Jamma de Samba gynnal gweithdy offerynnau taro 90 munud, a welodd gyfranogwyr, gofalwyr a staff yn perfformio gyda’i gilydd ar amrywiaeth o ddrymiau ac offerynnau taro eraill. Roedd y gweithdy yn cynnwys dysgu darn newydd, gyda phob offeryn yn cael tro i berfformio unawd. Roedd y grŵp wedi gallu mwynhau tywydd gogoneddus yr haf a chael ei fan hufen iâ ei hun hyd yn oed ar gyfer yr achlysur – ffordd flasus o oeri!
Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at dymor yr hydref, a fydd yn cyrraedd uchafbwynt gyda pharti Nadolig blynyddol Soundworks, gyda cherddorion pres gwadd!




Soundworks yw rhaglen Actifyddion Artistig ar gyfer oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol ac awtistiaeth. Mae’n cael ei chynnal ar ddydd Mawrth yn ystod y tymor yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin. I holi am y sesiynau, e-bostiwch A2@artsactive.org.uk.