Ddydd Mawrth 2 Rhagfyr, cynhaliodd Soundworks ddathliad Nadolig arbennig yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin. Gan ddod i lawr o’r ystafell lan lofft a ddefnyddir ar gyfer sesiynau fel arfer, fe wnaethon nhw lenwi’r cyntedd gyda chaneuon Nadolig, hwyl yr ŵyl a digonedd o dinsel! Fe wnaeth pedwarawd pres gwych yn cynnwys Johanna Bartley, Holly Greenwood-Rogers, Helen Whitemore ac Andy McDade berfformio gwledd o garolau Nadolig a chaneuon Nadoligaidd eraill ac, wrth gwrs, cawsom ein diddanu gan ambell i ddarn gan ein harweinwyr cerddoriaeth Soundworks anhygoel, Phil May ac Emma Davies.
Pleser oedd gweld cynifer o aelodau Soundworks, staff y ganolfan hamdden a chwsmeriaid ac aelodau o’r cyhoedd yn dod at ei gilydd i wrando, canu, dawnsio a mwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd.
Hoffem ddiolch i bob un o’n haelodau Soundworks, yn ogystal â staff Canolfan Hamdden y Gorllewin, am eu holl gefnogaeth a brwdfrydedd drwy gydol y flwyddyn.
Nadolig Llawen!




Soundworks yw rhaglen Actifyddion Artistig ar gyfer oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol ac awtistiaeth. Mae’n cael ei chynnal ar ddydd Mawrth yn ystod y tymor yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin. I holi am y sesiynau, e-bostiwch A2@artsactive.org.uk.