Datganiadau Amser Cinio Caerdydd Glasurol: London Handel Players Trio

1:00PM - 2:00PM
Eglwys Dewi Sant

London Handel Players Trio

Adrian Butterfield, Rachel Brown, Silas Wollston

Am dros ugain mlynedd, ers gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn eglwys plwyf Handel, Eglwys San Siôr, Sgwâr Hanover, fel rhan o Ŵyl Handel Llundain yn 2000, mae’r London Handel Players wedi cyffroi cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’u perfformiadau a’u recordiadau. Wedi’u canmol gan y New York Times am eu “dyfnder teimladwy” a’u “sgiliau a’u cerddoriaeth penigamp”, mae’r ensemble yn ymddangos yn rheolaidd mewn lleoliadau a gwyliau mawr ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan arbenigo mewn cerddoriaeth siambr a concertos baróc ac yn cydweithio gyda rhai o gantorion mwyaf blaenllaw’r byd.
Mae teithiau diweddar wedi mynd â’r London Handel Players i Ogledd Iwerddon, Sbaen, Twrci, Canada a’r Unol Daleithiau. Mae’r ensemble yn arbennig o weithgar yng Ngogledd America, lle maent wedi perfformio mewn lleoliadau gan gynnwys Amgueddfa Frick, Neuadd Carnegie a Neuadd Bourgie ym Montreal. Yn 2023-24 byddant yn dychwelyd i Neuadd Wigmore, Llundain, gyda detholiad o Gantatas o waith Bach, concertos amlofferynnol gan Bach, Vivaldi a Telemann, a rhaglen Handel/Vivaldi gyda’r uwchdenor ifanc cyffrous, Alexander Chance.

RHAGLEN:
Handel Trio Sonata Op.5 No.1 in A major HWV 396 for flute, violin and continuo
Andante; Allegro; Larghetto; Allegro; Gavotte Allegro

Hotteterre Prélude for flute and continuo in G minor from L’Art de Préluder

Rameau Pièces de Clavecin: Concert No.5 in D minor
La Forqueray Fugue; La Cupis Rondement; La Marais Rondement

Corelli Violin Sonata Op.5 No.12 in D minor Follia

J.S. Bach Organ Trio in G major for flute, violin and continuo BWV 525
[Allegro]; Adagio; Allegro

Mae’r rhaglen hon o gyngherddau hygyrch, anffurfiol yn rhoi proffil i lawer o gerddorion sefydledig ac adnabyddus, tra hefyd yn cefnogi artisitiad newydd o bob rhan o Gymru, y DU ac Ewrop. Bydd y datganiadau awr o hyd yma yn cael eu cynnal yng nghanol y ddinas yn Eglwys Dewi Sant, Cilgant San Andreas, ar ddydd Mawrth cyntaf o bob mis.
Rydym mor falch o gael y cerddor ifanc uchelgeisiol a hynod dalentog hwn i agor ein Rhaglen Wanwyn.

Drysau’n Agor 12:30pm

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD