5 Mawrth 2026

Dreigiau, Telynau a Chacennau Cri: Dydd Gŵyl Dewi yn Soundworks!

Ar ddydd Mawrth 3 Mawrth roedd Soundworks yn nodi Dydd Gŵyl Dewi gyda dathliad llawen o gerddoriaeth Gymreig. Roeddem yn falch iawn o groesawu’r delynores Marged Hall, a’n harweiniodd wrth i ni ganu caneuon traddodiadol Cymreig, yn ogystal â chlasuron gan Tom Jones a Shirley Bassey Wrth gwrs!

Ar ôl danteithion arbennig o gacennau cri a phaned o de, cafwyd perfformiad ukulele annisgwyl gan Marged a’n harweinwyr cerddoriaeth Soundworks Phil ac Emma!

Roedd hetiau Cymreig hyfryd i’w gweld ac roedd digon o ddawnsio brwdfrydig a chwifio baner Cymru. Roedd yna ddraig goch a defaid o amgylch telyn Marged, oedd yn ychwanegu naws ddireidus!

Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw ddathliad Dydd Gŵyl Dewi yn gyflawn heb y Anthem genedlaethol, wedi’i chanu gyda balchder a brwdfrydedd i gloi’r diwrnod.

Diolch o galon i Marged am ymuno â ni a helpu i greu dathliad mor gynnes a chalonogol.

Am fwy o wybodaeth am Soundworks, cliciwch yma.

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD