Ein Rhaglenni

  1. A2: Pobl Ifanc Greadigol

    Beth bynnag yw’r ffurf gelfyddydol, yn ganolog i’n rhaglen ‘Criw Celf’ y mae’r dyhead i annog pobl i drin a thrafod pethau drwy gyfwng celfyddyd, a rhoi cyfle i’r rheini sy’n cymryd rhan ddarganfod a chryfhau eu ffyrdd o fynegi eu hunain.

    Darllen mwy
  2. ArtWorks Cymru

    Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig sy’n cynnal ArtWorks Cymru, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru. Partneriaeth wedi’i lleoli yng Nghymru yw’r rhaglen hon, sy’n datblygu ymarfer mewn lleoliadau cyfranogol.

    Darllen mwy
  3. A2: Cysylltu

    Rhaglen o gyfleoedd dysgu proffesiynol ym maes y celfyddydau mynegiannol, sy’n helpu athrawon i ddefnyddio celfyddydau mynegiannol yn yr ystafell ddosbarth.

    Darllen mwy
  4. Partneriaethau Actifyddion Artistig

    Mae cydweithio a phartneriaethau creadigol yn rhan hollbwysig o waith Actifyddion Artistig. Drwy gydweithio â sefydliadau celfyddydol a chymunedol eraill, rydyn ni’n dathlu ac yn hyrwyddo cyd-ddatblygu a chyd-gynhyrchu fel dull cynaliadwy o weithio sy’n seiliedig ar ddysgu.

    Darllen mwy
  5. Proms Actifyddion Artistig

    Cyfres o gyngherddau cerddorol sydd wedi’u creu gan dîm creadigol Actifyddion Artistig a’r rheini’n gynhwysol ac yn hygyrch i blant bach iawn, plant ifanc a’u teuluoedd.

    Darllen mwy
  6. Gamelan

    Cerddorfa offerynnau taro lawn yw’r gamelan, o weithdy Pak Tentrem Sarwento yn Jafa. Bydd y sesiynau’n annog pobl, yn hen ac ifanc, i fwynhau cymryd rhan mewn gweithgaredd celfyddydol, ac i brofi natur gynhwysol gamelan.

    Darllen mwy
  7. Open Orchestras

    Mae prosiect Open Orchestras wedi’i ddatblygu’n ofalus drwy broses ddylunio gyfranogol gyda cherddorion anabl ifanc, athrawon ac arweinwyr cerdd. Ei nod yw mynd i’r afael â diffyg darpariaeth ensembles cerddorol mewn ysgolion AAA.

    Darllen mwy
  8. Soundworks

    Mae’r sesiynau cerddoriaeth hyn yn rhan o’n rhaglen gynhwysol o weithgareddau creadigol i oedolion a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, ac maen nhw’n cynnig cyfleoedd creadigol rhagorol i bawb.

    Darllen mwy
  9. Criw Celf

    Mae A2: Criw Celf yn cynnig rhaglen amrywiol o gyfleoedd i artistiaid ifanc, gan eu galluogi i weithio gydag artistiaid, curaduron, dylunwyr a gwneuthurwyr ffilmiau proffesiynol (ac ati) i feithrin gwell dealltwriaeth a gwell profiad o ymarfer presennol yn y celfyddydau gweledol.

    Darllen mwy

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD