Mae yna gyfle i ysgolion gael cyllid i brynu offer cerddorol. Caiff ysgolion yn y Deyrnas Unedig sydd am brynu offerynnau ac offer cerddorol wneud cais am gyllid hyd at £2,000 drwy Ddyfarniadau Offerynnau a/neu Offer Sefydliad EMI Music Sound.
Hyd yn hyn gwnaeth y Sefydliad ddyfarniadau i dros ddwy fil o ysgolion, myfyrwyr unigol ac athrawon. Mae’r cyllid ar gael ar gyfer addysg cerddoriaeth sydd y tu hwnt i ddysgu cerddoriaeth statudol y cwricwlwm cenedlaethol.
Ni all y Sefydliad gyllido’n ôl-weithredol ac nid oes gan ysgolion hawl i gymorth ariannol dan y cynllun hwn os ydynt eisoes wedi prynu eu hofferynnau neu os gwnânt hynny cyn i’w cais gael ei gymeradwyo.
Oherwydd galw mwyfwy am gyllid bydd y Sefydliad yn blaenoriaethu ceisiadau sy’n canolbwyntio ar y rheini ac arnynt yr angen mwyaf.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau ar gyfer cyfarfod mis Hydref 2017 o’r Ymddiriedolwyr yw dydd Llun 21 Awst 2017. Cewch ddarllen rhagor yn:
http://www.emimusicsoundfoundation.com/index.php/site/awards/