Mae Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig wedi treulio’r gwanwyn yn gweithio gyda
Llamau a grŵp bach o bobl ifanc sy’n defnyddio cymorth a gwasanaethau addysg yr
elusen yn eu canolfan yn y Barri. Llamau yw’r brif elusen ddigartrefedd yng
Nghymru, ac mae’n cefnogi’r bobl ifanc a’r menywod sydd fwyaf agored i niwed.
Cynhaliodd yr artist Emma Prentice gyfres o sesiynau llesiant drwy greadigrwydd
rhwng mis Chwefror ac Ebrill eleni.
Roedd y gweithdai’n galluogi cyfranogwyr i ymlacioa mwynhau archwilio a datblygu
eu sgiliau creadigol. Roedd y sesiynau’n hwyliog ac yn anffurfiol, gan roi cyfle i
gryfhau perthnasau, a meithrin cyfeillgarwch a chyd-gymorth yn y grŵp gyda staff
Llamau.
Mae’r sesiynau yn y Fro wedi bod yn wych, roedd y bobl ifanc wrth eu boddau ac
maen nhw’n gweld eisiau Emma yn barod. Mae hi’n artist hyfryd, gyda syniadau
gwych sy’n llwyddo i ddod â’r creadigrwydd allan o’r bobl ifanc.
Ym mhob sesiwn, roedd y bobl ifanc yn canfod sgiliau newydd ac yn gwneud
rhywbeth unigryw a phersonol i fynd gyda nhw.
Yn nes ymlaen yr haf yma, byddwn ni’n ymuno â Llamau yn eu digwyddiadau mewn
gwyliau teuluol, i gynnig crefftau hwyliog i bobl o bob oed.



