27 Mehefin 2023

Enillydd Cystadleuaeth Ffanffer Pres dan 18 Actifyddion Artistig yn gyn-gyfranogwr ar Gynllun Cyfansoddwyr Ifanc Actifyddion Artistig!

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Neuadd Dewi Sant yn ddeugain oed, lansiodd Actifyddion Artistig gystadleuaeth ym mis Chwefror i ddod o hyd i’r ffanffer pres perffaith i ddathlu. Cafodd y cystadleuwyr y dasg o gyfansoddi ffanffer ar gyfer offeryniaeth band pres safonol, gyda dim mwy na phum offeryn, ac roedd categori o dan 18 oed a chategori dros 18 oed.

Yn y categori o dan 18 oed, roedden ni’n falch o weld un o gyn-gyfranogwyr Cyfansoddwyr Ifanc Actifyddion Artistig yn cipio’r wobr. Roedd y beirniaid o’r farn bod “dull unigryw a bywiog” Charlotte Kwok yn “unigol a chofiadwy”, ac roeddent yn hoff o’i chyfansoddiad hwyliog a hynod. Bu Charlotte ar gwrs Cyfansoddwyr Ifanc Actifyddion Artistig yn gynharach eleni, lle bu’n gweithio gyda’r cyfansoddwr Richard Barnard a’r cerddorion proffesiynol Helen Whitemore, Andy McDade, Vikki Scanlon a Johanna Bartley i gynhyrchu cyfansoddiad, yr aeth y cerddorion ati i’w recordio wedi hynny.

Gofynnon ni i Charlotte ‘sut oeddet ti’n teimlo pan glywaist ti dy fod wedi ennill y categori dan 18 yn y gystadleuaeth ffanffer?’ Meddai Charlotte ‘Dw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gael fy nghyfansoddiad wedi’i chwarae’n fyw gan gerddorion proffesiynol. Bydd yn wirioneddol ysbrydoledig cael clywed fy nghyfansoddiad yn dod yn fyw o’r feddalwedd i’r perfformiad byw’. Charlotte Kwok.

Roedd ein panel o feirniaid arbenigol yn cynnwys Kevin Price (Dirprwy Gyfarwyddwr Cerdd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru), Philip Harper (Cyfarwyddwr Cerdd Band Cory) a Dr Jonathan James (Sylfaenydd Cyn-Conservatoire Bryste). Dewiswyd Andy Wareham fel enillydd y categori dros 18 oed, ar ôl i’w “gyfansoddi cryf, rhannau blodeuog chwaraeadwy, a’i ysgrifennu rhinweddol” greu argraff dda arnyn nhw, ac roeddent yn teimlo bod y cais yma’n sefyll allan.

“Yn naturiol, dw i wrth fy modd o fod wedi cael y wobr fuddugol yn y categori dros 18 oed yng nghystadleuaeth Ffanffer Pen-blwydd Neuadd Dewi Sant yn 40! Roedd yn teimlo’n arbennig iawn cael ysgrifennu cerddoriaeth i ddathlu pen-blwydd lleoliad mor fawreddog yn ddeugain – lleoliad a chwaraeodd ran fawr yn fy astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at glywed y gwaith yn cael ei berfformio yn ystod Proms Cymru gan aelodau’r byd-enwog Band Cory. Diolch i Kevin Price, Philip Harper a Dr Jonathan James am eu sylwadau yn ogystal ag Actifyddion Artistig am eu gwaith caled yn cynnal y gystadleuaeth.”  Andy Wareham

Llongyfarchiadau enfawr i Charlotte ac Andy am eu cynigion rhagorol.Gallwch glywed eu cyfansoddiadau’n cael eu chwarae’n FYW gan aelodau Band Cory yn y Prom Pres a Lleisiau nos Fercher 12 Gorffennaf. I gael tocynnau ar gyfer y digwyddiad yma a digwyddiadau eraill y proms, neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Neuadd Dewi Sant.

‘Mae Actifyddion Artistig wedi bod yn rhedeg y cynllun Cyfansoddwyr Ifanc am y 10 mlynedd
diwethaf, ac mae’r cwrs yn un o lond llaw o gyrsiau ym Mhrydain sy’n agored i gerddorion a
chyfansoddwyr rhwng 14 a 19 oed. Cwrs AM DDIM ar gyfer darpar gerddorion neu gyfansoddwyr
ifanc ledled Cymru yw’r cynllun Cyfansoddwyr Ifanc. Datblygwyd y cwrs gan dîm Actifyddion Artistig
fel rhan o raglen Extras Caerdydd Glasurol yn Neuadd Dewi Sant, gyda chefnogaeth gan Gyngor
Celfyddydau Cymru.

Ydych chi’n gerddor ifanc uchelgeisiol rhwng 14-18 oed? Dyddiadau ac amseroedd cyrsiau: 24, 25, 26 a 27 Gorffennaf Click Here

Ffoto: Charlotte Kwok /Andy Wareham

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD