7 Rhagfyr 2017

Mae’r cynhyrchiad hwn yn gyfle euraid i athrawon Drama ei ddefnyddio fel sbardun ar gyfer gwaith Drama Lefel A a TGAU

Rhwng 21 Chwefror a 16 Mawrth 2018, bydd Theatr Genedlaethol Cymru – mewn
cydweithrediad â Pontio – yn llwyfannu’r ddrama Y Tad mewn saith canolfan ledled
Cymru.

Mae’r ddrama’n drosiad Cymraeg gan Geraint Løvgreen o Le Père gan Florian
Zeller, enillydd Gwobr Molière 2014 yn Ffrainc am y ddrama orau.

Mae hi’n stori ddirdynnol am ŵr sy’n methu deall yr hyn sy’n digwydd iddo pan fo’i
gof yn dadfeilio, a merch sy’n ceisio dygymod â salwch ei thad.

Mae’r cynhyrchiad hwn yn gyfle euraid i athrawon Drama ei ddefnyddio fel sbardun
ar gyfer gwaith Drama Lefel A a TGAU.

Gellir ei ddefnyddio ar gyfer y cwestiwn adolygu darn o theatr fyw yn yr arholiad
TGAU – ac ar gyfer Lefel A gellir ei ddefnyddio ar gyfer y cwestiwn sy’n gofyn am
ddylanwad theatr fyw ar eu dewisiadau artistig mewn perthynas â’u testunau gosod.

Bydd ThGC yn paratoi Pecyn Addysgol cynhwysfawr i ddisgyblion i gyd-fynd â’r
cynhyrchiad.

Bydd y pecyn hwn yn cynnwys nifer o elfennau fydd o gymorth i athrawon wrth
iddynt baratoi’r disgyblion ar gyfer yr arholiadau allanol. Bydd yn cynnwys y canlynol:

 Crynodeb o’r ddrama
 Gair am yr awdur, Florian Zeller
 Beth yw dementia?
 Sgwrs â’r Cyfarwyddwr, Arwel Gruffydd*
 Sgwrs â 2 o’r actorion*
 Sgwrs â’r Dylunwyr Set a Gwisgoedd, Goleuo a Sain*
 Nifer o ymarferion i’r disgyblion er mwyn eu helpu i adolygu’r perfformiad, e.e.
dadansoddiad o berfformiad unigol, dadansoddiad o olygfa, strwythur ac iaith
y ddrama
 Trafodaeth ar sut y gall testun gael ei berfformio yn y theatr o safbwynt (i) yr
actor; (ii) y dylunydd; (iii) y cyfarwyddwr, gan drafod dehongliad o gymeriad,
sgiliau perfformio, gwahanol fathau o lwyfannau, elfennau dylunio, strwythur,
iaith a chyfarwyddiadau llwyfan y ddrama, a sut mae’r perfformiad wedi
dylanwadu ar eu penderfyniadau artistig wrth lwyfannu eu testun gosod
**Bydd cyfle i weld y cyfweliadau a nodir uchod ar ffilm ar wefan ThGC.
Rydym yn eich cynghori i drefnu ymlaen llaw bod eich disgyblion yn dod i weld y
cynhyrchiad arbennig hwn, ac i ymgeisio ar gyfer grant Ewch i Weld. Fe’ch anogir chi
hefyd i ddefnyddio’r pecyn addysgol. Os gwelir ei fod yn llwyddo, y bwriad yw paratoi
deunydd cyffelyb i gyd-fynd â chynyrchiadau’r dyfodol.
Mae hwn yn gyfle arbennig i Theatr Genedlaethol Cymru gydweithio â chi fel
athrawon Drama i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion o sut mae

drama a theatr yn cael eu datblygu a’u perfformio, a’u cynorthwyo i allu dadansoddi
a gwerthuso ar gyfer gofynion yr arholiad ysgrifenedig.
Paratoir y pecyn addysgol gan ymarferwyr profiadol yn y maes, sydd hefyd yn
arholwyr i CBAC.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD