Ymunwch â ni ar ddiwrnod San Ffolant â Chanolfan Gelfyddydau Chapter, i ddathlu a lansio marchnadfa artist digidol mewn ysgolion A2:Clymu.
Cyfe fydd y diwrnod i gael gwybod am artistiaid yn gweithio mewn ysgolion yn y cylch a’u cyfarfod nhw, yr athrawon sydd ynghlwm ac i brof peth o’u gwaith yn llygad y ffynnon.
Mae’r digwyddiad undydd hwn yn gyfuniad o farchnad a seminar ac fe fydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i athrawon ac artistiaid — cyfle i rwydweithio, i ymgysylltu, i drafod ac i gymryd rhan. Bydd yna siaradwyr gwadd, cyflwyniadau bywiog a gweithdai ymarferol ac fe allwch chi ymuno â ni am y diwrnod cyfan neu am ran ohono.
GALWAD AR ARTISTIAID: Os ydych chi’n artist ac am gael y cyfle i arddangos eich gwaith yn Arddangosfa Celfyddydau ac Addysg A2: Clymu ddydd Mercher 14eg Chwefror, cysylltwch â Patricia@arts-active-trust.flywheelstaging.com i gadw’ch lle. Dyddiad terfyn cadw lle, dydd Gwener 26 Ionawr 2018 fan bellaf.
Amserlen A2: Connect Expo
- 10.00am-11.30am – Gwylio’r Gweithdy Ymarferol Cyntaf
- 10.00am-10.45am – Cyfarfod o Grŵp Rhanbarth Engage Cymru a chyflwyniad i’r Fframwaith Cymhwyster Digidol
(Ar agor i aelodau Engage a’r rheini sydd heb fod yn aelodau) - 11-11.15am– Coffi/Te
- 11.15am-12.00pm –
Lansio App A2: Clymu, marchnadfa celfyddydau ac addysg ar lein newydd. Bydd y teclyn dihafal yma a ddyfeisiwyd ac a grëwyd gan A2: Clymu yn rhoi lle i athrawon ac artistiaid bostio cyfleoedd i gydweithredu, cael gweld gwaith ei gilydd, cychwyn prosiectau ar y cyd, rhannu sgiliau a meithrin perthynas ffrwythlon. - 12.00pm-6.00pm – Stondinau ac Arddangosfeydd Artistiaid mewn Addysg – Portffolio amrywiol o waith a grëwyd gan artistiaid mewn ysgolion.
- 11.45am-1.15pm – Gwylio’r Ail Weithdy Ymarferol
- 12.00pm-1.00pm – Cymhorthfa Cyfleoedd –
Sesiwn ryngweithiol ar sut y mae App Ar Lein A2 Clymu yn gweithio. - 1.00pm-2.00pm– Cinio
- 1.00pm-2.00pm – Gweithdy Cymhwyster Digidol Engage Cymru
(Ar agor i aelodau Engage a’r rheini sydd heb fod yn aelodau) - 1.30pm-3.00pm – Gwylio’r Trydydd Gweithdy Ymarferol
- 4.00pm-5.30pm – Cyfarfod Rhwydweithio A2: Clymu –
Bydd y cyfarfod yn bwrw golwg ar brosiectau sy’n chwalu ac yn toddi ffiniau a rhwystrau cynhenid y diwrnod ysgol arferol, ei amserlen, ei gwricwlwm a’i adeiladwaith.
Y modd y mae gadael i weithgaredd / cyrchddulliau dan arweiniad artistiaid lifo i bob agwedd ar yr ysgol yn rhoi lle i ni hybu a gwella dysgu yn y disgyblion a’r staff, sy’n cael effaith gadarnhaol barhaol. Y modd y mae lles, deall emosiynol yn ogystal â sgiliau sylfaenol, llythrennedd a rhifogrwydd – a chan hynny canlyniadau – i gyd ar eu hennill o fewnlifiad anhrefn dan reolaeth. Gobeithio y gallwn ddal y ddysgl yn wastad rhwng gwerth i’r dysgwyr yn erbyn tarfu.