24 Ionawr 2018

Meddwl Cyfrifiadol a Chodio Creadigol â Micro:bits

Dyma ffordd ddiddorol o gael profiad dysgu creadigol sy’n chwilio’r Cymhwyster
Fframwaith Digidol, gan ddefnyddio cyfrifiadur rhaglenadwy bychan bach, o’r enw
Micro:bit.
Gofynnom i Kath Morton, asiant creadigol yn y cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol, i sôn
mwy wrthym am y cyfleoedd creadigol ddaw yn sgìl codio yn yr ystafell ddosbarth:

“Un o fy hoff ddyfyniadau ydi “Y deall yn cael hwyl yw creadigedd,” gan Albert Einstein, ac
mae hyn yn crynhoi meddwl cyfrifiadol i’r dim.
Nid meddwl fel cyfrifiadur mo meddwl cyfrifiadol, na hyd yn oed maes gwyddonydd
cyfrifiadurol neu godiwr yn unig. Mae’n rhoi lle i ni ddatrys problemau, dylunio systemau,
creu a thorri tir newydd. Ac mae dysgu gwneud pethau drwy eu codio i wneud rhywbeth yn
arfer tan gamp mewn meddwl cyfrifiadol.

Rwy’n rhedeg sesiynau i ddisgyblion sy’n mynd â nhw drwy broses codio creadigol, a
gwneud pethau â Micro:bit a allai ddatrys problem neu greu rhywbeth yn gyfan gwbl o’r
dychymyg.

Mae’r gweithgareddau’n ginesthetig a’r disgyblion yn dysgu drwy wneud, chwarae â
phosibiliadau a chael hwyl.

Does dim rhaid cyfyngu meddwl cyfrifiadol i wersi cyfrifiadura, mae’n rhywbeth y gellir ei
ddatblygu ar hyd ac ar led y cwricwlwm – gellir ei gymhwyso a’i chwilio mewn dylunio a
thechnoleg, celf, Saesneg neu Gymraeg, cerddoriaeth, mathemateg a phynciau eraill.
Mae disgyblion sy’n gallu meddwl yn gyfrifiadol yn gallu cysyniadoli, deall a defnyddio
technoleg ar sail cyfrifiaduron yn well, ac felly maen nhw’n fwy parod ar gyfer yr oes sydd
ohoni a’r dyfodol.

Yr hyn rwy’n dotio ato ynghylch codio gyda phlant ydi ei fod yn rhoi cyfle iddyn nhw
ymarfer eu sgiliau meddwl beirniadol, defnyddio rhesymeg, meddwl haniaethol a meddwl
ymaddasol i ddatrys problem.  At hynny, rydych yn rhan weithredol o gynhyrchu syniadau,
datblygu syniadau pobl eraill, gwneud eich pethau eich hun, a bod yn wreiddiol.
Rwy’n cael mai’r peth gorau’n aml ydi i’r athro fod yn yr ystafell ddosbarth hefyd fel bod
ganddo gyfle i ddatblygu ei arfer proffesiynol a phrofi addysgeg sydd i’r dim i ddysgu
meddwl cyfrifiadol a chodio.

Felly nid yn gymaint athro traddodiadol ydi fy rôl i ond rhywun fydd yn darparu’r adnoddau,
yr iaith a phrofiad dysgu, creu a gwneud rhywbeth defnyddiol gan ddefnyddio codio.”

Mae’n swnio fel ffordd ddifyr dros ben o ddod â chreadigedd i’r ystafell ddosbarth. I gael
gwybod rhagor, cysylltwch â Kath ar kathmorton70@yahoo.co.uk neu roi caniad i 07711581479.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD