29 Awst 2018

Eisiau rhoi hwb creadigol i’ch ysgolion a’ch disgyblion? Cynhaliwch wythnos dysgu creadigol!

Yn ddiweddar cefnodd y staff a’r plant yn Ysgol Gynradd Ynys y Barri ar yr amserlen arferol am wythnos, ac fe’u heriwyd i fod yn greadigol drwy ddysgu sgiliau neu dechnegau newydd, creu dawns neu ddarn o gerddoriaeth a rhannu eu creadigedd â chynulleidfa.

Alison Browning yw’r cydlynydd celf yn yr ysgol a’i syniad hi oedd yr Wythnos Dysgu Creadigol.

Rwy’n teimlo erioed fod ar blant angen amser i fod yn greadigol”, meddai Alison, “felly ers blynyddoedd lawer rwy’n gofyn am weld neilltuo wythnos gyfan i’r celfyddydau, a diolch byth rhoes ein prifathro newydd le i hyn ddigwydd.”

Beth ddigwyddodd?

Pennwyd gwlad wahanol i bob dosbarth a gofynnwyd iddyn nhw ymchwilio i’w cherddoriaeth a’i chelfyddyd, yn draddodiadol a modern. Roedd rhai o’r athrawon braidd yn betrus ond, gyda chymorth A2:Clymu, trefnodd yr ysgol sesiwn HMS yn help iddyn nhw fagu hyder. Dangosodd Julia Walker (sy’n Hyrwyddwr Celfyddydau) i bawb sut i gyfuno cerddoriaeth a lluniau i adrodd stori sain a dangosodd Terry Chin sut y mae gweithgareddau creadigol yn gallu calonogi pobl i sôn amdanyn nhw’u hunain a’u teimladau.

Ond nid cefnu ar y cwricwlwm mo’i dechrau a’i diwedd hi, meddai Alison: “Rhoddwyd allbrintiau i’r staff o’r canlyniadau/safonau ar gyfer celfyddyd, cerddoriaeth a dylunio a thechnoleg. Fe’u hatgoffwyd bod un gweithgaredd mewn gwirionedd yn gallu cyflawni nifer o’r gwahanol ganlyniadau/safonau yn yr holl bynciau hyn.”

Ar dân gan frwdfrydedd ar ôl y sesiwn, roedd gan y staff dair wythnos i feddwl am ‘eu’ gwlad. Storiwyd yr holl ddeunyddiau’n ganolog, ac am wythnos ar ei hyd roedd yr ystafelloedd dosbarth a’r neuadd yn cael bod yn flêr.

Ar unrhyw adeg yn ystod yr wythnos roedd plant o bob oed i’w gweld yn sgwrsio, yn cynllunio, yn ymarfer, yn dawnsio ac yn canu yn yr ystafelloedd dosbarth i gyd, yn y neuadd, y caeau chwarae a gardd yr ysgol,” meddai Alison.

Canolbwyntiodd Blwyddyn 6 ar wlad Groeg, a chynnal priodas Roegaidd yn y cae chwarae wedyn dawns draddodiadol a gwledd. Bwriodd Blwyddyn 5 olwg ar gelfyddyd tatŵau wynebau a gemwaith Maori a sut i berfformio Haca. Dysgodd Blwyddyn 4 am hanes patrymau helyg Tsieineaidd a chyfansoddi eu cerddoriaeth eu hunain i gyfeilio i Ddawns Ddraig. Gwnaeth Blwyddyn 3 eu gemwaith a’u masgiau anifeiliaid Ceniaidd eu hunain, tra dysgodd Blwyddyn 2 am gelfyddyd, gwehyddu a cherddoriaeth Astecaidd, a dysgodd Blwyddyn 1 am gelfyddyd a cherddoriaeth brodorol Awstralia.

Dysgodd y dosbarth Derbyn am sgrifennu a cherddoriaeth Japaneaidd a darlun Hokusai ‘Y Don’ a pherfformio dawnsiau gwyntyll ac ambarél Japaneaidd. A chafodd plant y Feithrinfa flas ar ddysgu am gerddoriaeth a chelfyddyd Indiaidd.”

Trydarodd y dosbarthiadau i gyd luniau a ffilmiau i’w rhannu â’u rhieni/ gofalwyr a’r gymuned leol. Cafodd eu gwaith hefyd ei arddangos yn Llyfrgell y Barri ac ar wefan yr ysgol.

Beth oedd barn y staff a’r disgyblion?

Roedd y sesiynau celfyddyd yn ‘hwyl’, yn ‘hamddenol’ ac ‘yn gwneud i fy nghalon guro am fy mod wrth fy modd yn bod yn greadigol’, meddai’r plant.”

Ac meddai’r staff: ‘Fe fu’r Wythnos Dysgu Creadigol yn gyfle tan gamp i drwytho’r plant yn y diwylliant, y gelfyddyd a’r gerddoriaeth o wlad arall. Mae’r plant ar eu hennill yn aruthrol ac roedden nhw wrth eu boddau’n dysgu’, ac ‘Mae’r plant a’r staff i gyd wedi dweud bod arnyn nhw eisiau bod yn greadigol yn amlach’. Rhoes yr athrawon wybod bod y sesiynau celfyddyd wedi ennyn mwy o frwdfrydedd wrth y gwaith o gwblhau gweithgareddau ysgrifenedig ynghlwm â’r wlad yn ddiweddarach.”

Awgrymiadau gan Alison ar gyfer eich wythnos dysgu creadigol:

1) Adeg/cynllunio: Roedd ymchwilio i’r gwledydd ac wedyn eu paru â’r dosbarthiadau yn waith llawer o gynllunio. Ein dewis ni oedd yr wythnos ar ôl yr wythnos brofi a hynny’n plesio’r staff a’r plant fel ei gilydd.

2) Cefnogaeth: Roedd arnom angen cefnogaeth y prifathro gan mai ef oedd piau caniatáu newid yr amserlen, cyllido deunyddiau a chaniatáu blerwch drwy’r ysgol drwyddi draw. Mae gofyn i’r athrawon a’r staff cymorth hefyd fod yn gefnogol ac yn frwdfrydig. Roedd yr HMS yn gymorth i feithrin hyder. Cynigiwyd cefnogaeth i’r athrawon gan y cydlynwyr cyn ac yn ystod y prosiect.

3) Perfformio/rhannu: Gofynnwch i’r staff feddwl ymlaen, gan fod gofyn cadw rhai oedfannau ymlaen llaw e.e. llyfrgell.

4) Y dyfodol: Cadwch gofnod o weithgareddau i’w defnyddio’r flwyddyn wedyn yn gymorth yn y gwaith cynllunio. E.e. fe ddefnyddion ni gamerâu/ iPadiau i gofnodi sut i wneud gweithgareddau e.e. ffilmiau oediog.

Os carech drefnu wythnos dysgu creadigol, cysylltwch – gallwn roi help llaw, sef cyngor a chefnogaeth, artistiaid yn gymorth i’ch athrawon a’ch disgyblion, a rhagor.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD