29 Awst 2018

Ewch i Weld – cyllid i’ch trip ysgol!

Cofio’r don o edrych ymlaen cyn trip ysgol? Mae bob amser yn beth cyffrous i ddisgyblion adael tir yr ysgol yn ystod y dydd (yn gyfreithlon!) – ac mae’r profiadau hyn yn rhan bwysig o’u addysg gyflawn. Ond mae galwadau mwyfwy ar gyllidebau ysgolion ac ar amser athrawon, sy’n pei iddyn nhw lithro i lawr y rhestr flaenoriaethau. Mae Ewch i Weld yn gronfa sy’n gallu helpu.

Beth yw Ewch i Weld a phwy gaiff wneud cais?

Cronfa yw hon sy’n gallu cefnogi ymweliadau â digwyddiadau o safon uchel yn y celfyddydau mewn orielau, theatrau, canolfannau celfyddydau ac oedfannau eraill, neu deithiau i brofi pobl broffesiynol yn y celfyddydau yn datblygu eu gwaith.

Mae pob ysgol yng Nghymru yn gallu gwneud cais am hyd at £1,000 ar unrhyw adeg o’r flwyddyn a chael penderfyniad o fewn chwech i wyth wythnos. Mae Cyngor y Celfyddydau’n dyfarnu hyd at 90% costau’r profiad.

Un ymgeisydd llwyddiannus i’r gronfa oedd yr athrawes drama Rhian Hillier o Ysgol Maesteg.

Beth ysgogodd Rhian i wneud cais i’r gronfa?

Roeddwn yn ceisio trefnu taith i 42 o’n disgyblion blynyddoedd 10, 11, a 12 i weld The Play That Goes Wrong yn y New Theatre yng Nghaerdydd. Roedd gofyn iddyn nhw weld ac adolygu drama yn rhan o’u cyrsiau TGAU a safon Uwch. Holais ynghylch cost y tocynnau a doedd dim disgownt grwpiau, felly byddai pob myfyriwr wedi mynd i gost o £30 yn cynnwys pris y bws. Rydym mewn ardal o amddifadedd – mae rhai o’n teuluoedd yn byw yn yr ardal o’r amddifadedd pumed mwyaf yng Nghymru – felly does dim gobaith i lawer o rieni fforddio hynny.”

Pa mor hawdd oedd gwneud cais am gyllid?

Mae’n syml iawn, dim ond llenwi’r ffurflen ar-lein. Mae’n werth darllen y nodiadau canllaw gyntaf, gan fod gofyn i chi amlinellu’r effaith sydd yn eich bwriad, sut y mae’r gweithgaredd yn cyfrannu ac yn ychwanegu at eich gweithgareddau creadigol arferol. Maen nhw hefyd yn cynnig eich bod yn gwneud cais fis ymlaen llaw fan leiaf. Byddwn innau’n cynnig eich bod yn ei wneud yn gynt fyth. Mae amser yn gwibio i ni athrawon, felly nid yn unig y mae cynllunio ymlaen llaw yn hollbwysig er mwyn cael y grant, ond mae’n eich helpu i wneud yn siwr ei fod yn digwydd.”

Faint gawsoch chi?

Cawsom y £1000 yn gyflawn, felly dim ond £10 roedd rhaid i bob disgybl ei dalu am y daith.

Mae llawer o ysgolion yn ei chael hi’n anodd trefnu teithiau am nad oes yna ddigon o arian nac amser. Y dyddiau hyn mae yna lawer o fforymau ar lein lle gallwch chi wylio theatr fyw. Mae’n syniad tan gamp ond ddim yr un peth â’i phrofi’n fyw.”

Beth roeddech chi’n gobeithio y byddai’r daith yn ei gyflawni?

Y prif beth oedd i’n disgyblion brofi theatr fyw – gweld actorion proffesiynol wrth eu gwaith – a phrofi genre gwahanol o ddrama. Mae yna agwedd gymdeithasol bwysig hefyd ac mae’n eu helpu nhw i gyd-dynnu fel grŵp. Hyfryd o beth oedd eu clywed yn sôn amdano’r holl ffordd adref.

Ar ôl y daith roedd gofyn iddyn nhw sgrifennu adolygiad yn rhan o’u cwrs. Roedd yn gaffaeliad mawr yn eu sgrifennu estynedig a’u gwerthuso ar gyfer yr arholiad, yn ogystal â rhoi ysbrydoliaeth a syniadau iddyn nhw o ran eu hactio eu hunain.

Dyna’r tro cyntaf i lawer ohonyn nhw fynd i’r New Theatre, a’r tro cyntaf i rai – cynifer â 25% mae’n debyg – y tro cyntaf iddyn nhw fynd i unrhyw theatr. Fe fyddwn yn cymell athrawon eraill i roi cynnig arni.”

I gael gwybod mwy a gwneud cais arlein.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD