Beth oedd eich addunedau blwyddyn newydd chi? Neu, os nad ydych yn gwneud addunedau, eich addewidion i chi’ch hun? I mi, un ohonyn nhw bob gafael yw ‘gweithio’n glyfrach nid yn galetach’. Os ydych chi’n athro neu’n rhywun creadigol yn ein cymuned, does rhaid i chi ond gwneud PUM peth er mwyn i A2:Clymu weithio’n glyfrach i chi:
✅Ymgofrestru i enewyddlen A2:Clymu
Gewch chi gyngor ymarferol, ysbrydoliaeth a syniadau gan athrawon/greadigolion eraill, a manylion hyfforddiant a digwyddiadau a chyfleoedd eraill AM DDIM, yn syth i’ch blwch derbyn.
✅2) Creu cyfrif ar wefan A2:Clymu
Mae hyn yn golygu y gallwch greu neu chwilio am gyfleoedd a chael eich rhestru (yn ôl eich dewis) yn y cyfeiriadur Pobl fel bod pobl yn gallu cysylltu â chi. Cyn bo hir fe fydd yna fanteision eraill hefyd, fel hysbysiadau hollol addas, awtomatig am gyfleoedd sy’n cyd-fynd â’ch union ddiddordebau/arbenigaethau chi.
✅3) Mewngofnodwch yn y wefan, clicio Cyfleoedd ac a) dewis eich lleoliad, a b) dweud ‘ie’ er mwyn i’ch proffil gael ei gyhoeddi yn ein hadran ‘Pobl’ (yn ôl eich dewis)
Bydd y ddau beth yma’n waith llai na munud i chi. Unwaith y byddwch wedi gorffen, byddwch yn gallu cael hyd i’r bobl iawn neu eu cyrraedd, yn gyflymach, a chael eich gweld yn ein cyfeiriadur pobl! Cewch wybod rhagor yma.
✅4) Dilynwch ni ar Gweplyfr a Trydar, ac o bryd i’w gilydd hoffi/rhannu/gwneud sylwad ar ein postiadau
Dewiswch y llwyfan sydd orau gennych fel y clywch chi’n gyflym am gyfleoedd, hyfforddiant a rhagor.
✅5) Cofiwch ddod i’n datblygiad proffesiynol parhaus/dysgu proffesiynol a’n digwyddiadau AM DDIM
Fe ddowch oddi yno wedi’ch adfywio, eich ysbrydoli, ac yn fwy tebol i ennyn y creadigedd sydd yn eich disgyblion a’ch ysgol.
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr adran Cyfleoedd ar wefan A2:Clymu.