i Athrawon Cynradd ac Uwchradd
Cliciwch yma i archebu eich tocyn am ddim trwy eventbrite
dydd Llun 4 Mawrth 2019 | 10:00 – 16:00 St David’s Hall, Caerdydd
Drwy A2 Clymu, y rhwydwaith celfyddydau ac addysg thanbarthol a redir gan Actifyddion Artistig, rydym yn cynnig diwrnod Dysgu Proffesiynol i athrawon i chwilio testun Romeo and Juliet. Bydd y diwrnod hyfforddi yma’n golygu gweithio gydag Actorion yr RSC ac Ymarferwyr Addysg ac mae modd cymhwyso’r strategaethau dysgu mae’n eu cynnig yn llwyddiannus i Shakespeare a thestunau cymhleth eraill a ddefnyddir ym meysydd llafur Saesneg a Llythrennedd.
Roedd athrawon roddodd adborth ar weithdai cynt yn gytûn bod ganddyn nhw, ar ddiwedd y diwrnod, dechnegau amlddefnydd newydd i’w rhoi ar waith yn yr ystafell ddosbarth. Amcan y cyrsiau diwrnod hyn yw rhoi i chi strategaethau a syniadau newydd i’w dwyn i’ch canlyn yn ôl i’r ystafell ddosbarth. Dan arweiniad artistiaid sy’n arfer eu crefft a chanddynt wybodaeth benodol am y celfyddydau mewn cyd-destunau addysgol, mae pob diwrnod yn cyfuno arfer ymarferol a gweithredol yn ogystal â’r cyfle i rannu a rhwydweithio ag athrawon, cydweithwyr ac artistiaid eraill.