Ddeunaw mis yn ôl athrawes cerddoriaeth mewn ysgol uwchradd oedd Kathryn Lewis – bellach yn Bennaeth Adran y Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Nantgwyn (‘ysgol-drwodd’ newydd) – heb ddim diddordeb arbennig mewn gweithio ar draws ffurfiau ar gelfyddyd. Erbyn hyn mae’n hyrwyddwr dysgu rhyngddisgyblaethol yng Nghymru a bellach, meddai, ni allai synied am ddysgu pynciau’n gyfan gwbl ar wahân. Cawsom air â Kath cyn ein digwyddiad rhwydweithio, The Venetian Blind Effect – pa mor agored ydym ni i’r celfyddydau rhyngddisgyblaethol? (nos Fawrth 5 Mawrth 4-6pm, Theatr Sherman), lle byddwn yn chwilio ein gobeithion a’n hofnau o ran dysgu rhyngddisgyblaethol yn y Celfyddydau Mynegiannol mewn ysgolion.
Dywedwch wrthym pam rydych yn credu mor gryf yng ngallu’r celfyddydau rhyngddisgyblaethol?
Cyn i hyn oll gychwyn, doedd gen i ddim profiad o ddysgu ffurfiau eraill ar gelfyddyd. Serch bod yn yr ysgol (Ysgol Gyfun Porthcawl) ers deuddeng mlynedd, dim ond unwaith roeddwn wedi torri gair â’n hathro celf! A minnau’n gerddor brwd ers bore oes, dyna’r llwybr roedd gen i mewn golwg erioed – roedd fel pe na bai angen bwrw golwg ar y ffurfiau eraill ar gelfyddyd, a dim anogaeth i wneud. A dweud y gwir, pan oeddwn i yn yr ysgol doedd fy newisiadau i ddim yn gadael i neb gymryd mwy nag un pwnc yn y celfyddydau.
Wedyn deuthum yn rhan o’r grŵp o athrawon, Arloeswyr, yn bwrw golwg ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh) a amlinellir yn adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yr Athro Donaldson, cyn diwygio’r cwricwlwm oedd yn yr arfaeth yng Nghymru.
Yn sydyn reit, roeddwn mewn ystafell gyda phobl o bob un o’r disgyblaethau ac roedd gofyn iddyn nhw ystyried a ellid dysgu’r celfyddydau mewn ffordd integredig – ac i ddechrau, yr ymateb croch gan yr athrawon uwchradd oedd NA!
Yn naturiol ddigon, ‘mae gennym TGAU Celf, Cerddoriaeth neu Ddrama i weithio tuag ato’, medden nhw, neu ‘rwyf wedi treulio f’oes yn arbenigwr pwnc, sut y gallaf yn fy myw wneud hyn?’ ac yn y blaen.
Y peth anhygoel oedd, cafodd ysgolion cynradd ac arbennig y gorau arnom go iawn! Fe rannon nhw straeon sut roedden nhw’n dysgu a bu hyn, ynghyd â rhagor o drafod, cyflwyniadau gan arbenigwyr, ac ymchwil bersonol gennym i gyd, yn gyfrwng ein darbwyllo y gellid – ac yn wir y dylid – ei wneud! Hefyd roedd Kay Smith o Ysgol Pencoed yn athrawes uwchradd oedd eisoes wedi cychwyn y broses. Gan nad yw drama’n bwnc cwricwlwm, roedd arni ofn erioed y câi ei dorri. Fe’n hysbrydolodd ni i gredu y gallai newid ddigwydd.
Dyma ni’n canolbwyntio ar ‘Be sydd o bwys’ (Saesneg yn unig) ac yn bwrw golwg ar brosesau oedd ar y cyd i’n disgyblaethau ni i gyd. A dyma daro ar eiriau allweddol roedden ni’n teimlo oedd yn cwmpasu ein MDPh:
Chwilio a phrofi
Creu a chyfleu
Ymateb ac ystyried
Dyna oedd un o’r trobwyntiau o ran dod â ni at ein gilydd fel grŵp.
Sut yr aethoch chi â hynny yn ôl i’ch ysgol?
Dyna oedd yr her. Buaswn i’n rhan o’r broses honno o ystyried yn fanwl, cawswn amser i wneud ymchwil, i drafod ac i chwilio syniadau. Ond doedd fy nghydweithwyr ddim yn rhan o’r daith honno.
I ddechrau, medden nhw, doedd ganddo ddim gobaith mul o weithio – hyd yn oed o safbwynt logistaidd. Mewn llawer o ysgolion, dyw lleoliad adrannau ac adeiladau ddim hyd yn oed yn rhoi lle i hynny.
Meddai fy nirprwy brifathro, ‘paid â dychryn y ceffylau’ ac awgrymu fy mod yn gwneud pethau fesul camau bychain. Felly awgrymais i ein bod yn gwneud prosiect rhyngddisgyblaethol gyda disgyblion blwyddyn 6 y bydden nhw’n ei barhau ym mlwyddyn 7 pan ddoen nhw aton ni. Ddewison ni The Lion King.
Ymhen yr hi’r a’r hwyr meddai un o’m cydweithwyr wrthyf “Rwy’n poeni go iawn am safonau, yn y fan hon yn y tymor bydden nhw wedi dysgu’r elfennau cerddorol, ond y cwbl rydym yn ei wneud yw drymio a chelf Affricanaidd”. Ac meddwn innau, “ond gallwn fod yn dysgu timbre iddyn nhw, a thraw; rhythm ac egni; yr holl bethau hynny, tra ydym yn ei wneud – a’u cysylltu nhw â’r elfennau mewn ffurfiau eraill ar gelfyddyd.”
Roedd yn ennyd agoriad llygad i mi – sylweddolais fod rhaid i ni ail-ddychmygu’n gyfan gwbl sut roedden ni’n mynd i’r afael â phynciau. Mae’n hurt bost, siawns, dysgu’n sych am yr elfennau cerddorol, heb unrhyw gyd-destun? Nid dyna’n profiad ni yn y byd go iawn. Sylweddolais nad oedd yna ddigon o gyd-destun yn y ffordd roeddem yn dysgu. Er enghraifft, mae pob adran gerddoriaeth yn gwneud uned ar Ganu’r Felan, ac eto ychydig iawn sy’n ei gysylltu â hanes a daearyddiaeth sydd ar ryw adeg yn sôn am y fasnach gaethweision a dileu caethwasiaeth.
A phan ddechreuwch chi edrych yn fwy cyffredinol ar arferion meddwl creadigol, rydych yn sylweddoli bod y rhain yn cael eu cwmpasu ar draws y disgyblaethau i gyd. Mae proses gwneud, chwilio, ymateb yr un fath yn union waeth pa ffurf benodol ar gelfyddyd rydych yn gweithio ynddi. Ac mae’r myfyrwyr yn gweld i’r pen y cysylltiadau ar draws y pynciau a thrwy’r broses greadigol, ac fe erys hynny gyda nhw ar hyd eu hoes.
Mae Kath yn argymell dod i wybod rhagor am arferion meddwl creadigol Paul Collard. Gwylio cyflwyniad fideo. https://education.gov.scot/improvement/learning-resources/Why (Saesneg yn unig)
Allwch chi roi enghreifftiau i ni o sut y gweithiodd hynny’n ymarferol yn yr ysgol gyntaf lle rhoesoch brawf arno?
Ym Mhorthcawl, ein man cychwyn oedd ‘diwrnod i’r brenin’ yn yr haf, lle’r oedd y disgyblion yn cael eu tynnu oddi ar yr amserlen a’u trochi mewn cerddoriaeth, drama, celf, ynghlwm ag un thema – The Lion King. Fe’u cymhellwyd nhw i ofyn ‘cwestiynau mawr’ – i feddwl am beth roedden am ei wybod. Buom yn bwrw golwg ar bob mathau o bethau – statws, hunaniaeth, hierarchaeth, llwythau Affrica …
Ym mis Medi, roedd Celfyddydau Mynegiannol mewn du a gwyn ar eu hamserlenni ond dysgid pob disgyblaeth ar wahân hefyd. Roedd sesiynau dechrau a chloi yn drawsgwricwlaidd, felly efallai mai sbardun y wers gerddoriaeth oedd darn o gelf, er enghraifft, neu gychwyn trafodaethau â beth wnaethon nhw yn eu gwers gelf ddoe.
Roedd yr ymateb gan y dysgwyr yn wirioneddol gadarnhaol a hyn, i’m tyb i, a argyhoeddodd fy nghydweithwyr. Roedd y gwersi i gyd yn gwneud synnwyr, meddai’r myfyrwyr, roedd yn dda ganddyn nhw weld bod yr athrawon cerddoriaeth, celf a drama i gyd yn gwybod beth roedden nhw’n ei wneud mewn gwersi eraill. Doeddwn i ddim bellach yn dweud, “Paid â sôn am hynny wrtha i nawr, rydym mewn gwers gerdd nawr”. Hyfryd o beth oedd fy mod yn gallu sgwrsio â nhw ynghylch beth aeth yn dda/ heb fod cystal yn y wers gelf. Mewn arolwg o’r disgyblion, gofynnwyd iddyn nhw “Lle’r ydych chi’n teimlo fwyaf diogel?” ac meddai 90% y Celfyddydau Mynegiannol.
Felly o hynny allan, bob hanner tymor, câi athrawon cerddoriaeth, celf a drama fore neu bnawn gyda’i gilydd i fwrw golwg ar linellau holi ac ar beth fyddai’r themâu nesaf. Wedyn byddem yn cynllunio ar y cyd gan ddefnyddio Office 365 a Google Drive, a byddai Pennaeth y Celfyddydau Mynegiannol yn cyd-drefnu pethau.
Roedd pob cynllun gwaith yn arwain at brosiect terfynol oedd yn rhoi stondin i’r tair disgyblaeth. Roedd hyn yn beth call heb os nac onibai – fe allech ddal i asesu eu cynnydd ar wahân mewn pynciau unigol, ond roedden nhw hefyd yn cael barn oedd yn olrhain eu proses greadigol gyffredinol.
Sut mae’n gweithio yn eich ysgol bresennol?
Yn Ysgol Nantgwyn, i ddechrau roedd blynyddoedd 7 ac 8 yn cael dysgu thematig yn y Celfyddydau Mynegiannol, y Pynciau Dyneiddiol, ac Iechyd a Lles ond sylweddolon ni ei fod yn gam rhy bell yn y cyfnod cynnar hwn.
Felly ym mis Ionawr eleni, dyma rannu’r gwaith thematig yn ddwy ran – ‘Creadigol’ a ‘Bywyd’. Mae gan bob athro yn y Celfyddydau Mynegiannol ddau ddosbarth ac mae’n gyfrifol am ddysgu Celf, Cerddoriaeth a Drama.
Byddwn yn cynllunio ar y cyd a phob un ohonom yn cynnig cyfraniad arbenigol i’n cydweithwyr. Felly fi sy’n cynllunio’r cyfraniad Cerddoriaeth ac yn cynnig adnoddau ac arweiniad dysgu proffesiynol, patrymau a chymedroli, gan ystyried mai rhywun anarbenigol fydd yn ei draddodi. Mae’r uwchsgilio’n anhygoel. Rwy’n teimlo’n hyderus y gallaf ddysgu Celf a Drama am fod yr athrawon eraill yn cynnig y gefnogaeth a’r cyfraniad yna.
Wedyn ym mlwyddyn 9, yn barod at yr arholiadau, rydym yn argymell eu bod yn mynd i wersi pynciau arbenigol – er bod cymwysterau’n newid ac yn ôl pob tebyg fe fydd yna arholiad TGAU yn y Celfyddydau Mynegiannol.
Onid yw hyn i gyd yn rhagor o waith i athrawon sydd eisoes wedi’u llethu?
Mae dysgu bob amser yn gofyn cryn dipyn o ddatblygiad proffesiynol, mae continwwm o athro newydd i arweinydd, felly mae’n RHAID i chi ymroi i arfer ac addysgu newydd, o’ch bodd neu’ch anfodd.
Mae Haberman yn sôn am dlodi addysgu – rydym yn gweithio’n galed ond heb fod yn gwneud cynnydd. Dylai cynlluniau gwaith ddatblygu’n ddi-baid – nid yw dweud na does dim amser yn esgus.
Mae Kath yn argymell darllen The Pedagogy of Poverty vs Good Teaching (Saesneg yn unig) gan Martin Haberman.
Dywedodd llawer o athrawon ei fod wedi’u cyffroi, ac wedi bywiogi eu dysgu. Fe allan nhw deimlo’u bod wedi bwrw baich, fel pe taen nhw wedi tynnu hualau eu rhagdybiaethau ynghylch beth yw gwers gerddoriaeth, er enghraifft. I mi, fe all dysgu chwe gwers gerddoriaeth y dydd fod yn lladdfa, felly buom wrth fy modd yn dysgu Drama a Chelf, am eu bod yn wahanol. Felly o ran lles mae yna fanteision i’r cyrchddull yma.
Mae newid yn anodd, ond yn werth chweil os ydym am ddwyn yn ei flaen yr addysgu.
Mae Kath yn argymell darllen am gromlin newid Kubler Ross (Saesneg yn unig).
Yn olaf, allwch chi roi ambell i gam bach i ni y gallai pobl eu cymryd ar unwaith – yn cychwyn ag athrawon?
- Gofynnwch i’ch Uwch Dîm Arwain a gâi’r athrawon Celfyddydau Mynegiannol yn eich ysgol hanner diwrnod i fwrw golwg ar holl gynlluniau gwaith Celf, Cerddoriaeth a Drama, gyda’i gilydd – i weld a oes yna unrhyw bethau ar y cyd, a yw uned waith unrhyw un yn cyffroi rhywun arall, a gofyn gewch chi ddewis cynllun i’w wneud gyda’ch gilydd.
- Gallech ddewis uned waith o’r ddau bwnc, a gwneud un y tymor neu’r hanner tymor. I ddechrau gallech roi prawf arni am hanner tymor, megis tymor cyntaf blwyddyn 7. Gofynnwch am adborth gan eich dysgwyr yn gymorth i chi ddadlau dros yr achos
Ac a oes yna unrhyw beth y dylai artistiaid a chreadigolion fod yn ei wneud i baratoi ar gyfer y cyrchddull mwy rhyngddisgyblaethol hwn mewn ysgolion?
- Rhowch broffil a chyfle ar wefan A2:Clymu i wneud athrawon yn ymwybodol ohonoch. Cysylltwch â’ch ysgol/ion lleol a gofyn am gyfarfod i roi gwybod iddyn nhw beth sydd gennych i’w gynnig. Darllenwch bum awgrym da i artistiaid ar gyfer ymorol bod eich prosiect celfyddydau’n cael lle mewn ysgol.
- Pan fyddwch yn traddodi mewn ysgol, anogwch yr athro i gymryd rhan, yn rhan o’u dysgu proffesiynol.
- Byddwch yn fodlon cael cyfarfod â’r athro ar ôl y sesiwn (ystyriwch gynnig hyn yn wasanaeth dros ben yn rhan o’ch ‘pecyn’). Dangoswch iddyn nhw sut byddwch yn traddodi eich sesiwn, a rhoi cyngor ynghylch sut y gallen nhw ei wneud gan ddefnyddio’r sgiliau, yr wybodaeth a’r adnoddau sydd ganddyn nhw.
Gwrandwch ar y cyfweliad â Kathryn, ‘Emma & Tom’s PGCSE podcast’ (Saesneg yn unig)