6 Mawrth 2019

Llwyddiant i wneuthurwyr ffilmiau Just Druid: defnyddio A2:Clymu i gael creadigolyn i weithio mewn ysgolion

Mae athrawon sydd ar drywydd artistiaid/creadigolion, ac artistiaid/creadigolion sydd ar drywydd ysgolion i gydweithio â nhw, yn cael adran Cyfleoedd gwefan A2:Clymu yn lle tan gamp i gyfarfod eu cymar perffaith. Weithiau mae’r ‘cymar’ yn siomi o’r ochr orau, fel y dywedodd Chris Ready, o Just Druid, wrthym.

Beth yw Just Druid?

Cwmni ymchwil a datblygu, nid er elw ydym ni, i’r diwydiant ffilmiau a rhyngrwyd. Rydym yn gwneud ffilmiau byrion i ysgolion, colegau a phrifysgolion y gallan nhw’u defnyddio yn eu dysgu – ac os oes gan un o’r ffilmiau hynny’r potensial i gael ei datblygu ymhellach, dyna’n union beth wnawn ni.

Er enghraifft, gwnaethom ffilm fer i ysgolion, am ganmlwyddiant Brwydr Passchendaele yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Milwr o Bontypridd oedd ei thestun, a sgrifennodd lythyr at ei Dad o’r ffosydd. Ei hamcan oedd ysbrydoli plant ysgol i ymchwilio i arwyr lleol, gan gynnwys cynddisgyblion, a chreu atgofion amdanynt – bechgyn na ddaeth drwy’r rhyfel.  Gewch chi ddarllen rhagor am y prosiect ysgolion yma. https://www.justdruid.org/our-glyn/  Gallwch wylio’r ffilm gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Pontypridd (hen ysgol Glyn), wedi’i chyhoeddi ar-lein yng Nghasgliad y Werin Cymru. Rydym nawr yn datblygu’r stori’n gyfres deledu.

Pa gyfle hysbyseboch chi ar A2:Clymu?

Dyn camera allai ddod i mewn a gweithio gyda ni i ffilmio’r disgyblion yn yr ysgolion roedden ni’n treiglo’r prosiect iddyn nhw, gan gychwyn â St Monica’s yng Nghaerdydd. Roedd yn defnyddio ffilm y milwyr yn ysbrydoliaeth, ac wedyn byddwn yn gweithio ochr yn ochr â’r disgyblion i’w helpu nhw i wneud sgript a chreu ffilm, ac wedyn yn ei hychwanegu at Gasgliad y Werin Cymru.

Gawsoch chi hi’n hawdd ymgofrestru a chreu cyfle?

Do, yn hawdd iawn.

Oeddech chi’n falch o’r ymateb?

Oedden! Wnaethon ni ddim byd hyd yn oed i hyrwyddo’r cyfle, dim ond ei restru. Roedd yr ymateb yn ardderchog. I ddechrau cawsom un ymateb, wedyn aeth popeth yn ddistaw iawn, wedyn hwrdd o ymatebion, un ohonyn nhw wythnosau’n ddiweddarach.

Un o’r pethau gwych oedd yr amrywiaeth o bobl ddaeth i gysylltiad. Cefais negeseuon ebost gan bobl sydd hefyd yn gwneud cartŵns, animeiddio, cerddoriaeth – felly’r bonws annisgwyl yw fy mod wedi casglu rhwydwaith pur ddiddorol o bobl y gallwn yn hawdd alw arnyn nhw yn y dyfodol. Rwy’n credu mai chwech oedd y cyfanswm.

Ond yn bwysicaf oll, cawsom rywun oedd yn well na’r disgwyl – Glenn Powell, o Stiwdios SBS ym Mhontypridd http://www.sbsrecords.co.uk/. Mae o’r diwydiant cerdd yn wreiddiol ac yn cyflenwi gwasanaethau ffilm a recordio sain felly roedd hynny’n wych. Felly nid yn unig y cawson ni ddyn camera, ond darpar farchnad i rai o’r syniadau cerdd sydd gennym.

Roedd Glenn wedi gweithio gydag ysgolion o’r blaen, ac elusennau, doedd dim byd yn ei lorio am ei fod wedi gweithio gyda’r fath amrywiaeth o bobl yn y diwydiant cerdd.

Fyddech chi’n postio cyfle ar A2:Clymu eto?

Byddwn, yn bendant, o bostio cyfle mae’r ddau du ar eu hennill mewn llawer o ffyrdd!

Ydych chi wedi cael eich cymar perffaith ar A2:Clymu? Cysylltwch â ni a gallwn sgrifennu’ch stori chi. Byddwch hefyd yn hybu’ch gwasanaethu i rwydwaith eang o athrawon a chreadigolion!


*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr adran Cyfleoedd ar wefan A2:Clymu.


 

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD