18 Medi 2019

Sut mae animeiddio’n gallu helpu disgyblion i fagu sgiliau digidol, creadigol a throsglwyddadwy

“Mae ein plant a’n pobl ifanc eisoes yn byw a bod mewn byd digidol ac mae eu bywydau personol, cymdeithasol ac addysgol wedi’u plethu fwyfwy â thechnoleg ar amryw ffurfiau sy’n cyflym newid. Mae cyfranogi’n llawn o gymdeithas fodern a’r gweithle eisoes yn galw am safonau cymhwyster digidol cynyddol uwch ac ni all y broses honno ond dal i fynd hyd at ddyfodol na allwn mo’i ddychmygu.”

Yr Athro Donaldson, Successful Futures

Mae animeiddio’n ffordd wych ac arloesol o symbylu plant i fagu sgiliau digidol, pwysig i’w dyfodol, yn ogystal â mynegi straeon, syniadau a chysyniadau mewn ffordd greadigol a gwreiddiol. Yma, mae Darren Latham o Blue Monkey, yn rhoi i ni dair ffordd arall y gall animeiddio fod yn declyn buddiol yn y stafell ddosbarth.

Am ddysgu rhagor? Dewch aton ni i’n gweithdy Digidol Amdani AM DDIM

1. Cyfathrebu a Chynhwysiad

Mae animeiddio’n gallu bod yn neilltuol o fuddiol yn declyn i symbylu creadigrwydd dysgwyr sy’n cael sillafu a gramadeg yn anodd, am ei fod yn eu rhyddhau rhag pryder gorfod poeni am bethau technegol bob amser ac yn rhoi lle iddyn nhw’n hytrach ganolbwyntio ar y stori.

2. Codi pontydd

Nid gweithgarwch unig mo creu animeiddiadau o bell ffordd. Mae yna gyfle i gydweithio, a dysgwyr yn gweithio gyda’i gilydd mewn grwpiau gallu a chyfoed gwahanol a chan hynny chwalu terfynau cymdeithasol ac academaidd. Mae’r broses wneud yn golygu dysgwyr yn rhannu eu creadigaethau â’u grwpiau cyfoed, pa un ai yn y stafell ddosbarth neu drwy roi’r gwaith terfynol ar lein.

Yn fy mhrofiad fy hun yn Ymarferwr Ysgolion Creadigol, rhoes animeiddio hefyd gyfle i ysgolion roi lle i ddysgwyr weithio ochr yn ochr ag artistiaid a phobl broffesiynol eraill. Cyflwynwyd dysgwyr i ffyrdd newydd o feddwl a set ehangach o ddyheadau.

3. Hunanfynegi

I lawer o ddysgwyr, mae hunanfynegi yn gallu bod yn her enfawr, a dulliau traddodiadol o gelf fel lluniadu a pheintio, er eu bod yn hwyl fawr i rai, yn gallu bod yn anodd a pheri pryder i’r rheini sydd heb efallai lawer o ddawn artistig naturiol.

Mae animeiddio’n gallu bywiogi lluniadu o unrhyw safon a meithrin hyder a hunan-barch dysgwyr pan welan nhw’u cymeriadau’n cerdded ac yn siarad neu, hyd yn oed os mai dim ond eu cefndir sy’n cael ei gynnwys ar y cyd â dysgwyr eraill, maen nhw’n teimlo’n fwy cadarnhaol ynghylch eu cyfraniad.

4. Sgiliau Cyflwyno

Y peth arall gwych ynghylch animeiddio yw ei fod yn cynnig llwyfan cyffrous ac egnïol i symbylu dysgwyr i roi cyflwyniadau dosbarth diddorol a difyr.

Mae straeon animeiddiedig yn ffordd effeithlon o gyfleu gwybodaeth, fe allan nhw ddweud llawer mewn munud neu ddau – run fath yn union â chân dda neu gerdd dda – ac maen nhw ill tri’n gwneud argraff barhaol ar ddysgwyr. Mae animeiddio’n ffordd dan gamp o ennyn diddordeb a symbylu dysgwyr, yn gwneud cyflwyniadau ystyrlon, sioeau sleidiau, egluro cysyniadau’n weledol a chysylltu’n weledol go iawn â’u cynulleidfa.

Mae dysgwyr yn magu sgil buddiol ar gyfer eu haddysg yn y dyfodol mewn cyfnodau allweddol diweddarach. A chynnydd cynifer o wahanol apiau megis Thing Link, Explain Everything a llond gwlad at hynny, mae dysgwyr ac athrawon fel ei gilydd yn gallu symud ymlaen oddi wrth y cyflwyniad Power Point sydd bellach yn cael ei orddefnyddio ac sydd wedi dyddio – neu o leiaf ei fywiogi.

 

Mae gan Darren Latham dros ugain mlynedd o brofiad yn athro celf mewn ysgol uwchradd ac yn bleidiwr y defnydd creadigol o animeiddio a chyfryngau digidol mewn addysg. Bellach yn dysgu rhan-amser, mae’n rhannu ei awch a’i sgiliau animeiddio ag ysgolion drwy hyd a lled De Cymru yn addysgwr o artist, ac yn cynnig hyfforddiant a mentora i athrawon. Mae Darren yn un o Hyrwyddwyr Celfyddydau Rhwydwaith y Celfyddydau ac Addysg, De-ddwyrain Cymru, ac yn un o Ymarferwyr y Cynllun Ysgolion Creadigol arweiniol.

www.bluemonkeyanimation.co.uk

@BlueMonkeyAnim1


*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*

Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr adran Cyfleoedd ar wefan A2:Clymu.


 

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD