Mae drama’n declyn anhygoel ar gyfer dysgu ar draws y cwricwlwm. Mae’n ffordd hwyliog o wreiddio dysgu am ystod o bynciau; ac mae’n cynnig gwledd o fanteision, gan gynnwys meithrin hyder, datblygu sgiliau cyfathrebu ac iaith, annog cydweithio, datblygu deallusrwydd emosiynol, ysbrydoli meddwl creadigol – i enwi dim ond rhai manteision! Dyma’r cyntaf o dri fideo Sgiliau dim Ffriliau, sy’n rhoi syniadau a chyngor i athrawon ar gyfer defnyddio drama yn yr ystafell ddosbarth.
Llwythwch y blog hwn i lawr fel taflen adnoddau.
Drama #1: Dewch â Drama i’ch Ystafell Ddosbarth
Gwthiwch y byrddau a’r cadeiriau’n ôl yn eich stafell ddosbarth a chychwyn neu orffen sesiwn â gêm ddrama sy’n cefnogi llafaredd a chydweithio
Gwnewch drama yn rhan o’ch gweithgareddau ystafell ddosbarth bob dydd
Does dim gofyn i chi gynllunio wythnosau ymlaen llaw
Does dim gofyn i chi gadw’r neuadd
Gweithgaredd 1: Creu Stori Un Gair Ar y Tro
- Esboniwch i’r dysgwyr eich bod chi fel grŵp yn mynd i greu stori. Bydd pawb yn adio at y stori un gair ar y tro, felly fydd dim syniad gennym pa drywydd fydd y stori yn cymryd! Dangoswch yr elfen yma o’r ffilm A2 Clymu: Dod â Drama i’r Dosbarth i esbonio sut mae chwarae, neu rhowch gardiau o eiriau unigol i’r dysgwyr i drefnu mewn i frawddeg, a gofyn iddyn nhw sefyll yn y trefn cywir cyn eu darllen allan fesul un.
- Eisteddwch mewn cylch a dechreuwch gydag ‘Un’ neu ‘Amser’ (gan roi’r cyfle i’ch dysgwyr parhau gyda ‘Un-tro’ neu ‘Amser-Maith-yn-ôl’ fesul gair ac fe fyddwch chi wedi ddechrau ar drywydd stori un-gair-ar-tro cyffrous newydd!
Mae’r gêm yma’n rhoi cyfle i’r dysgwyr meithrin hyder, llafaredd a chreadigrwydd ar yr un pryd. Gyda’ch cefnogaeth chi byddant yn dysgu am ramadeg a sut i ychwanegu geiriau disgrifiadol gwych i wella ar eich brawddegau, neu sut i ddatblygu storiau gyda lleoliadau, cymeriadau neu digwyddiadau cyffrous. Partnerwch plant llai hyderus gyda rhai mwy hyderus am gefnogaeth, neu gyfeiriwch y dysgwyr at y Wal Dysgu am gymorth.
Gweithgaredd 2: “Mae’r Haul yn Tywynnu ar…”
“Mae’r Haul yn Tywynnu ar…” yw enw’r gêm yma.
Eisteddwch mewn cylch ar gadeiriau. Mae un person yn sefyll ar ganol y cylch ac yn dweud “Mae’r haul yn tywynnu ar unrhyw un sy’n…..” ac wedyn maen nhw’n gorffen y frawddeg â rhywbeth sy’n wir amdanyn nhw.
Dyma’r rheolau:
- Rhaid i chi newid cadeiriau os yw’r datganiad yn wir amdanoch chi
- Chewch chi ddim cyfnewid â’r person nesaf atoch chi oni bai eich bod chi yw’r unig ddau sy’n symud
- Chewch chi ddim rhedeg
- Gêm ddi-gyffwrdd yw hon, felly dim taclo rygbi
Cychwynnwch â datganiadau syml am olwg pobl (unrhyw un sy’n gwisgo sgidiau duon) a gallwch ymestyn i hoffterau/ gas bethau, hobïau a diddordebau, barnau, credoau, campau ac uchelgeisiau. Gallwch hyd yn oed ei gwneud yn berthnasol i’ch thema, er enghraifft, Shakespeare neu gyfnod y Tuduriaid.
Ble nesaf a ble i chwilio am gymorth?
CYSYLLTIADAU: Mwy o weithgareddau a gemau i chwarae gyda’ch dysgwyr
www.dramatoolkit.co.uk/drama-games
www.dramanotebook.com/drama-games
Mae hwn yn rhan o gyfres o 15 fideo a thaflen adnoddau ‘Sgiliau dim Ffriliau’, a grëwyd gyda chymorth Hyrwyddwyr Celfyddydau A2:Connect. Athrawon yw’r Hyrwyddwyr Celfyddydau, sy’n gweithio gyda ni i rannu eu harfer a’u harbenigedd gydag ysgolion/ athrawon eraill yn y rhanbarth.
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr Plwg.