Unwaith mae gan eich dysgwyr symudiadau syml, gellir dyfeisio coreograffi drwy ddefnyddio rhai technegau syml.
Anogwch y dysgwyr i weithio’n cydweithredol, gan addysgu i’w gilydd eu symudiadau neu ‘fotiff’ arbennig, ac arbrofi gyda ffyrdd o arddangos y symudiadau ar-y-cyd. Datblygwch cyfres o symudiadau gan ddefnyddio ailadrodd fel ddyfais coreograffig.
Gyda’ch anogaeth chi mae’r dysgwyr yn gallu datblygu eu hyder ac anibynniaeth i gynhyrchu dawns fydd yn ysbrydoli eraill.
Llwythwch y blog hwn i lawr fel taflen adnoddau.
Dawns #3: Datblygu Perfformiad Dawns
GWEITHGAREDD 1: Dawnsio ar-y-cyd
- Cychwynnwch drwy ofyn i’r plant ddewis un symudiad neu fotiff â ddatblygon nhw’n gynharach. Mae hyn yn sicrhau bod pob plentyn yn cael eu gwerthfawrogi.
- Anogwch waith tîm a chydweithio drwy ofyn i’r disgyblion addysgu eu motiffau i weddill y grŵp neu i bartner.
- Arbrofwch gyda wahanol ffyrdd o berfformio’r motiffau mewn fel grŵp drwy berfformio:
– ar-y-cyd
– ar ddull canon, sef y naill ar ôl y llall (yn debyg i Don Mecsicanaidd)
– drwy adlewyrchu ei gilydd
– neu gwrthgyferbynnu â’i gilydd trwy perfformio dau motiff gwahanol ar yr un adeg ochr-wrth-ochr.
GWEITHGAREDD 2: Defnyddio ailadrodd fel ddyfais coreograffig
- Gofynnwch i’r grŵp ddewis y motiff neu symudiad dawns cyntaf a’i labelu’n ‘A’, ac ail fotiff a’i enwi’n B.
- Esboniwch eu bod yn mynd i berfformio y rhain mewn dilyniant ‘ABA’, gan ailadrodd y fotiff ‘A’ ar y diwedd.
Yn wahanol i’r dull ABA ydy’r strwythr a’i elwid yn Dilyniant Rondo:-
- Gofynnwch i’r dysgwyr dewis pedwar motiff (A, B, C, a D).
- Esboniwch eu bod yn mynd i’w perfformio mewn strwythr ‘ABACADA’.
Mae’r ddau ddyfais goreograffig yn gofyn i’r grwpiau ddewis a dethol motiff canolig fydd yn cael ei ailadrodd (motif ‘A’). Anogwch eich dysgwyr i wneud dewisiadau a gweithio gyda’i gilydd – pa un o’r symudiadau y meant wedi’u harbrofi gyda y bydden nhw’n dewis fel yr un pwysicaf/ mwyaf diddorol i ddod nôl ato drosodd a throsodd yn y darn?
GWEITHGAREDD 3: Perfformiad ac adborth
Cyflwynwch y darnau i’ch gilydd ac annog y dysgwyr i bwyso a mesur er mwyn rhoi adborth adeiladol.
Gallech gynnwys cwestiynau hunanfyfyriol o’r math yma ar gyfer adborth:
A yw trefn y symudiadau’n synhwyrol ac yn adrodd stori?
Sut mae’n cychwyn ac yn gorffen?
Oes yna lonyddwch yn y darn? Pam?
Oes eisiau cynhyrfu neu arafu’r egni ar adegau yn y darn?
Oes yna pontio neu gysylltu rhwng symudiadau?
Sut mae’r ddawns yn gweithio fel cyfanwaith?
I ddatblygu ymhellach gall y dysgwyr wneud dewisiadau creadigol annibynnol o ran sut mae’n cael ei gyflwyno, e.e. cerddoriaeth, rhythm, neu ddistawrwydd. Fe allen nhw ystyried cynnwys barddoniaeth neu destunau adrodd, gwisgoedd neu gelfi i fywiogi eu perfformiad.
Ble nesaf a ble i chwilio am gymorth?
CYSYLLTIADAU: Gwyliwch perfformiadau dawns gyda’ch dysgwyr
https://jasminvardimon.com/
http://www.matthewbourne.com/
https://ndcwales.co.uk/
https://www.wmc.org.uk/
Dyma’r cyfres o 15 adnodd ‘Sgiliau Syml’, sy’n cyd-fynd gyda fideo ar-lein o’r un enw.
Mae hwn yn #3 o 3 adnodd Dawns a fideo.
Mae Hyrwyddwyr Celfyddydau A2 Clymu yn athrawon sy’n gweithio gyda ni i rannu eu profiad ac ymarfer da gydag ysgolion/athrawon eraill yn yr ardal.
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr Plwg.