12 Chwefror 2021

Taflu’r goleuni ar Artistiaid Mynegiannol: Y Gyfansoddwraig Helen Woods

Cyfansoddwraig, cyfarwyddwraig gerdd a pherfformwraig yw Helen Woods, sy’n arbenigo’n benodol ar weithio mewn cyd-destunau addysgol a chymunedol.

Rydyn ni’n falch iawn y bydd Helen yn arwain sesiynau Datblygiad Proffesiynol Parhaus athrawon Cyfnod Allweddol 2 mewn creu cerddoriaeth greadigol yn yr ystafell ddosbarth.

Llwybrau Hygyrch tuag at Gyfansoddi Cerddoriaeth a Datblygu Sgiliau – ar gyfer athrawon Cyfnod Allweddol 2.

Meddai Helen…..

Yn y ddwy sesiwn hon, bydda i’n cyflwyno ffyrdd newydd o greu cerddoriaeth gyda disgyblion yn yr ystafell dosbarth. Bydd modd i gerddorion profiadol a newydd ddysgu dulliau a syniadau newydd yn y sesiynau yma, gan gynnwys gweithgareddau y mae modd eu cyflwyno o bell.

Mae fy athroniaeth yn hyrwyddo meithrin creadigrwydd cynhenid plant ifanc. Rwy’n credu mewn cefnogi a chynnal rhyddid a mynegiant di-gyfyngiad plant, fel bod arferion creadigol yn dod yn naturiol iddyn nhw.  Drwy wneud hyn, gallwn ni gefnogi disgyblion i wreiddio arferion sy’n cefnogi eu creadigrwydd ar lefel uwch ac yn nes ymlaen yn eu bywydau.

Mae fy nghyfansoddiad fy hun yn dod drwy fanteisio ar bob cyfle i greu gwaith newydd. Boed hynny gyda phlant tair oed, lle mae cân y mae’n rhaid i ni ei hysgrifennu a’i chanu, neu gyda disgybl piano gan fod angen i ddarn am aderyn gael cyfeiliant gan drac sain am ysbïwr ar ymgyrch; tra bod y dosbarth Dawns ar gyfer Parkinsons yn chwilio am gerddoriaeth newydd i’w rhannu.

Mewn geiriau eraill, mae gan bob elfen o fy ngwaith a fy mywyd y potensial a’r posibilrwydd o greu cerddoriaeth newydd. Weithiau mae cân yn dod i fy mhen – ond ddim bob tro. Weithiau mae’n rhaid i fi fynd i chwilio amdani!

Yn y sesiynau yma, dw i’n gobeithio rhannu ffyrdd o werthfawrogi’r caneuon sy’n dod i’ch pen yn naturiol.  Ond ar yr un pryd, bydda i’n rhannu’r dulliau dw i’n eu defnyddio i ddod o hyd i gerddoriaeth newydd o wahanol lefydd.

picture shows Helen Woods on the beach playing the character Cherry Pie
Mae hi wedi cyfansoddi pedair sioe gerdd lawn, sawl cylch o ganeuon, a holl ganeuon ‘Tiddly Prom’ ar gyfer Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru. Helen yn chwarae Cherry Pie (uchod) yn sioe ‘Tiddly Prom’, perfformiadau cerdd byw sydd wedi’u creu’n arbennig i blant dan 5 oed yw’r rhain.

 

Mwy

Mae Helen yn arbenigo mewn cerddoriaeth ar gyfer/gyda phlant dan 5 oed, ond mae ganddi brofiad o ystod eang o brosiectau a chynyrchiadau cerddoriaeth. Mae hi wedi cyfansoddi pedair sioe gerdd lawn, sawl cylch o ganeuon, a holl ganeuon ‘Tiddly Prom’ ar gyfer Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru. Comisiynwyd Helen gan Opera Cenedlaethol Cymru i gyfansoddi opera A Real Princess i blant 4 a 5 oed gyda’r awdur/cyfarwyddwr Sarah Argent.

Yn 2013, cafodd Helen gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ddatblygu ei gwaith cyfansoddiadol ac i archwilio themâu’n ymwneud â threftadaeth a hunaniaeth. Ers hynny, mae Helen wedi cyfrannu at gerddoriaeth ar gyfer gemau Marvel, ynghyd â chael ei chomisiynu gan Ŵyl Bro Morgannwg yn 2022 i gyfansoddi darn i’w berfformio gan ddefnyddio testun gan Greta Thunberg.

Mae hi’n gweithio’n rheolaidd i Opera Cenedlaethol Cymru, Bale Cenedlaethol Lloegr a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ond mae hi hefyd wedi gweithio gyda Bwrdeistref Sirol Caerffili, adran addysg BBC NOW, adran addysg y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, a Youth Music. Mae Helen yn fardd cyhoeddedig ac yn diwtor Gamelan Jafanaidd.

 

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD